gan helen williams » Sad 04 Rhag 2010 10:50 pm
Dyma'r gerdd, fy ewythr i, Myrddin Williams ddaru ei hysgrifennu hi!
Dildo Anti Nel
Roedd Yncl Now ac Anti Nel
Yn byw ym Mhen-y-groes,
Roedd Anti Nel yn gocwyllt iawn,
A phidlan Now fel toes.
Bob nos ai Now i'r gwely
Ar ôl cael Ofaltîn,
A chwyrnu'n uchel tan y wawr
Heb obaith am gael mîn.
Medd Nel: - does gen i'm dewis
Ond ordro teclyn rwd,
A mawr fu'r disgwyl wrth y drws
Am Postman Jos a'i gwd.
Y teclyn oedd yn fychan,
Ac Anti Nel yn fawr,
A doedd dim sôn na siap am ddod
'Rôl stwna am dair awr.
Mae hwn yn iawn i ll'godan
Medd Anti Nel yn flîn.
Wel ffwcia hyn, medd Yncl Now,
Mi wna'i un gwell fy hun.
Cath bartia o ryw sgrapiard,
A saim, am bedair punt,
A letric motor mawr thri ffês,
Fu'n chwaral Cilgwyn gynt.
Bu’n sbecian ac yn mesur,
Do wir am oriau maith,
Fel prentis geinicolojist
Yn y cilfachau llaith.
Daeth noson fawr y profi,
A Nel oedd ar ei hyd,
A Now a drodd y swits ymlaen
Ar ddildo gorau'r byd.
Aeth Anti Nel'n rilijys,
A gwaeddodd - Arglwydd goc!
A'i llgada'n rowlio rownd ei phen
Run fath a phys mewn woc.
Disgynodd llestri'r dresal,
A shatrodd llun o'r cwin,
A Nel fel stwffwl ar ei chefn
A mwg yn dod o'i thin.
Roedd rymblan fel daeargryn,
Daeth cyrn saith ty i lawr,
Ond chwythodd ffiws yn Wylfa, Môn,
Gan stopio'r llanast mawr.
Daeth y papurau newydd
I glywed am y stwr,
A dwedodd Nel a'i fflaps yn rhacs -
Ffwl mârcs i Now y gwr.
Fe dynnwyd lluniau filoedd,
Caed intarfiws di-ri,
A'r pennawd welwyd yn y Syn -
'Ddî yrth dud mwf ffor mî'.
Myrddin Williams