Eisteddwch lawr. Gwnewch eich hun yn gyfforddus. Ma' hwn yn mynd i fod yn rant, ac yn rant enfawr hefyd.
Mae rheolwyr Radio Cymru naill ai yn hollol di=glem i'r raddau bod fi'n dechrau poeni am eu addasrwydd i ofalu am eu hunain heb gymorth o'r gwasanaethau cymdeithasol. Naill ai hynny, neu mae nhw#n hollol anaddas ar gyfer eu swyddi a rhaid eu gwaredu mor gyflym â phosib. Mae Jonsi wedi mynd. Ydy radio Cymru wedi llenwi'r bwlch yn syth gyda darlledwr craff fyddai'n medru denu gwrandawyr ar gyfnod pwysig o'r dydd i orsaf radio. Ff*c na !! Mae nhw wedi rhoi ffrind yr hicks Geraint Lloyd yn ei le "dros dro" ac yna yn llenwi'r bwlch sydd yn cael ei adael gan Mr. Lloyd yn y nos gyda cyfres o Drongo's a rejects sydd ddim hyd yn oed yn addas ar gyfer radio ysbyty. A mae'r sefyllfa "dros dro " yma wedi bodoli ers misoedd gyda'r gwrandawyr druan yn gorfod dioddef y gymysgedd gwaethaf o radio di=ddychymig, diogel a bland sydd yn bosib ei gynhyrchu. Cyfunwch hyn gyda'r mogadon geiriol a elwir yn Rhaglen Nia a mae gyda chi cyfres o rhaglenni sydd yn gwbl ddiog ac amhosibl gwrando arnynt.
A wedyn ar y pegwn arall, mae Magi Dodd - darlledwr sydd yn sharp, gydag arddull unigryw a chraff yn cael ei hanfon i'r we a slot hanner nos ! Mae hi'n wych ! Mae ei rhaglen yn wych ! a mae'n cael ei gladu tu hwnt i gyrraedd y mwyafrif o wrandawyr cyffredin. Mae Radio Cymru wedi colli neu cael gwared ar lu o ddarlledwyr tebyg i Magi : darlledwyr craff, doniol a beiddgar ac yn eu lle : rhoi rhaglenni i Terwyn Davies, Ifan Evans a datblygu proffil Geraint Lloyd. Mae gwrando ar rhain fel artaith pur a rhaid i ni fel gwrandawyr sefyll, gweiddi a datgan ein anniddigrwydd gyda'r darpariaeth boring ac embarasing sydd yn cael ei wthio lawr ein gyddfau.
A cyn i chi ddweud : nid rhyw rafin ifanc ydw i, rwy'n hanner cant ( bron) ac os dwi'n anghywir, a taw dyma'r hyn mae pobl Cymru wir am wrando arno o ddydd i ddydd, wel fyddai'n ddigon parod i gyfaddef bod fi'n rhyw fath o freak, a mi a'i ar fy ffordd a gwrando ar y llu o orsafoedd eraill sydd yn cynnig rhywbeth at fy nant. Ond dwi am gael adloniant yn y Gymraeg ! Mi oeddwn ni arfer cael gan Radio Cymru - tan i nhw bederfynnu rhywbryd fod y gwrandawyr yn zombies di liw - sydd ond am glywed am hanes dyn sydd yn brîdio hamsters !
Ffw*iwch bant o'm radio Cymru !!!! A dewch i weld pennaethiaid Radio Cymru yn syrthio yn fflat ar eu gwynebau di glem fel rhai S4C !!!
Dewch ymlaen ! Dyma'ch cyfle ! Traed mewn !!!