gan Coc Oen Blin » Mer 12 Ion 2011 12:10 pm
ti di bod mewn lifft a teimlo awgrym o claustrphobia? ne mynd yn sownd yn dy jympyr wrth ei thynnu dros dy ben? teimlo bo chdi'n mygu, mewn lle mor fach ti methu cael dy wynt? wel, fela dwi'n teimlo wrth wrando ar radio cymru a sbio ar s4c. dwi'n gwbod, ia, bo ni'n wlad fach aballu. os nad yw hi'n fawr ma hi'n ddigon. ffycin reit, digon i neud i chdi chwdu. radio cymru. teitl urddasol. radio i gymru, ein gwlad. radio genedlaethol yn yr iaith frodorol. swnio'n eang ac yn urddasol iawn tydi? ond plis, plis, gadewch i ni fod yn onast. be ydi radio cymru mewn gwirionadd? hospital radio? wel, ella, ond ma gin i ofn ma dim ond yn y terminal ward ma hi i'w chlywad erbyn hyn. cymerwch wedyn y dywediad "pysgod mawr mewn pwll bach". ddim cweit, mwy fel morfilod mawr mewn sosar. iawn, ma jonsi di mynd, am pa bynnag reswm, ond ydi hynny wedi gwella'r sefyllfa? gofyn ydw i. ma 'na leisia newydd yn y bora hefyd. un o'n prif gantorion pop ni yn d-jeio. gret. dim problem yn fanna. wedyn ma'r broblem yn dod, pan glywch chi ma'r record gynta yn y rhaglen sy'n dilyn ydi un o ganeuon y dj o'r rhaglen flaenorol. ac ma nhw'n dal i bentyrru oria o sylw i operau sebon a rhaglenni teledu saesneg, yn cael eu cyflwyno gen rhyw ddyn oedd unwaith yn trapeeze artist, ne lion tamer ne rwbath. ac yn lle jonsi a'i gacan joclet a'i gyulleidfa o 200 o wragedd rhwystredig dros 70 oedd i gyd yn byw hannar awr i ffwrdd o'i gilydd, be sgynno ni rwan? CLWB GWAU! clwb ffycin GWAU! ond rhen hogia 'na o bendraw byd sy di gweld hi bois bach. ma gennyn nhw sioe ar nos sul, ac ma nhw'n chwara eu recordia eu hunain. be ydi hynny dwch? menter ta jest ffwcin cheek? dudwch chi! sawl gwaith dw i di clywed nhw " dyna chi, 'rhen Dwight Yoakam, rhen hogyn o Nashful Teni-siii, yn fana, ew, da di'r hen 'ogia hetia cowboi ma te?" "ew, ia, mi fu gin i un unwaith sti. . . ." " be, het gowboi?" "duw, ia, 'i hennill hi yn y mariiiin leeeec 'na yn rhen Rhyl 'na nes i sti - ddudish i'r hanas wrthat ti dwad?" "do tad, ond rwan ma hi'n amsar am gan arall. un o'n caneuon ni, am tsjeeenj. be di hon dwad, y drydedd heno? ta'r bedwaradd? ta waeth, dyma chwa. . . . ." wel dyna ddechra son am radio cymru, ond ma 'na lot mwy i ddeud. es pewar ec tro nesa! mmmmmmm. . . . .