Wedi bod yn darllen hunan-gofiant NIgel Farage Fighting Bull ac wedi fy siomi ar yr ochr orau. Fel llawer o bobl, bues i'n cymryd mai twmffat o'r radd flaenaf oedd Farage (ac yntau a'i blaid yn enwog am alw am ddiddymu'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi pwyllgor o Aelodau Seneddol yn ei le, ymhlith pethau eraill). Fel mae'n digwydd, boi hynod ddifyr yw e, a'i lyfr yn hynod onest (yn wahanol i'r rhan fwyaf o hunan-gofiannau).
Yn y bôn, libertarian Torïaidd yw e, yn hoff o gael llonydd i fwynhau ei ddewis pleserau. Fel Tori hen-ffasiwn, mae'n frwd iawn dros sefydliadau "organig" (fel cyfansoddiad anysgrifenedig Prydain, a mesur pethau mewn moddfeddi a throedfeddi). Mae e'n ffraeth iawn hefyd wrth dynnu ambell flewyn o drwynau hunan-bwysigion yr Undeb Ewropeaidd.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion, mae'n weddol o onest am faint y gall gwleidyddion ei wneud i wella'r byd: "It's going to be pretty much the normal shitty mess, but we'll muddle through and try to keep it as fair and as much fun as possible."