Arlwy Nadolig S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Josgin » Sul 26 Rhag 2010 1:17 am

Wedi dweud hynny, C'mon midffild a Tudur Owen wedi fy rhoi mewn hwyliau da.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan tom.j » Sul 26 Rhag 2010 9:14 pm

Josgin a ddywedodd:Wedi dweud hynny, C'mon midffild a Tudur Owen wedi fy rhoi mewn hwyliau da.


Tudur Owen wedi rhoi fi mewn hwylie da fyd ac wedi mwynhau ail wylio 'Ar Y Tracs' heno hefyd.
Mamgu yn dweud "Wastod yn meddwl bo ti'n lesbian!" - Love it! Edrych mlaen at yr un newydd Nos Sadwrn. Dyma'r unig ddau uchafbwynt i fi hyd yn hyn ar S4C dros yr wyl.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Duw » Llun 27 Rhag 2010 5:00 pm

YN anffodus, dyma gwendid S4C ac RC, methu â phlesio pawb. C'mon Midffild yn fy ngwylltio - ffili deg â deall gair. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan bed123 » Llun 27 Rhag 2010 6:56 pm

Dwi eitha hoffi Tudur Owen fel arfer, ond roedd y sioe dolig yn ddiflas braidd. Meical o Uned 5 gynt yn 'outrageous' eto a chwerthin wirion ddi-pwrpas, a gormod o jocs ddi-chwaeth innuedo oedd ddim yn ddoniol iawn, fel edrych ar ffilm carry on wael. A unwaith eto disgyn yn ol ar sylwadau o'r gynulleidfa. Fel ddwedodd Ben Elton, arwydd o digrifwr sy wedi rhedeg allan o jocs pan mae o'n dibynnu ar y gynulleidfa am deunydd...'Do I come to your workplace and polish your lathe, no, its my job to entertain you with my material!' Clywch clwych.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan sian » Llun 27 Rhag 2010 7:46 pm

bed123 a ddywedodd:Dwi eitha hoffi Tudur Owen fel arfer, ond roedd y sioe dolig yn ddiflas braidd. Meical o Uned 5 gynt yn 'outrageous' eto a chwerthin wirion ddi-pwrpas, a gormod o jocs ddi-chwaeth innuedo oedd ddim yn ddoniol iawn, fel edrych ar ffilm carry on wael. A unwaith eto disgyn yn ol ar sylwadau o'r gynulleidfa. Fel ddwedodd Ben Elton, arwydd o digrifwr sy wedi rhedeg allan o jocs pan mae o'n dibynnu ar y gynulleidfa am deunydd...'Do I come to your workplace and polish your lathe, no, its my job to entertain you with my material!' Clywch clwych.


Cytuno'n llwyr. Mae Dafydd Êl yn foi ffraeth a difyr - fyse canolbwyntio arno fe a Donna Edwards wedi bod lot difyrrach na thiwn gron Meical.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Mali » Llun 27 Rhag 2010 8:58 pm

Heb weld rhaglen Tudur Owen eto , ond wedi ei lawrlwytho fo o http://www.golyg.com, ac yn bwriadu ei wylio yn fuan. Felly , fedrai ddim mynegu barn eto . :winc: Ond dwi wedi mwynhau'r rhaglenni dwi 'di weld hyd yma , gan gynnwys Carolau o Langollen oedd yn hyfryd iawn . :D
Cofiwch , dwi heb weld rhaglenni Nadolig Cymraeg ers 15 mlynedd, felly yn ddiolchgar iawn ! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Kez » Maw 28 Rhag 2010 2:29 pm

Duw a ddywedodd:YN anffodus, dyma gwendid S4C ac RC, methu â phlesio pawb. C'mon Midffild yn fy ngwylltio - ffili deg â deall gair. :(


Odi hwnna fod i neud iti ymddangos yn gwl :o :ofn:

Dim dowt da fi bo ti'n diall pob gair - paid a wilia shwt ffycin ddwli 'chan :ofn: :? - bydd pobol erill yn dy gredu di a bydd yr hen goel gwerin 'ma yn byw am byth - byth byth, gwitha'r modd!! :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan zorro » Mer 29 Rhag 2010 12:40 am

Cytuno fod arlwy'r sianeli eraill yn wael. Ond hefyd yn cofio oes ddim bell yn ôl lle 'roedd S4C yn cynnig uchafbwynt Nadolig ar Nos Nadolig a rhan fwyaf o'r amser, hwn oeddwn y gwylio ar y noson. Beth ddigwyddodd i'r ffilm fawr, yr uchafbwynt blynyddol ?

Cyn i bawb neidio ar y syniad fod S4C mewn argyfwng ariannol pwysig cofio nad yw'r oes hynny wedi cychwyn eto !! Ar hyn o bryd mae S4C dal yn derbyn arian sydd yn codi'n flynyddol !!!

Mae arlwy'r Nadolig hefyd :ing: yn adlewyrchu'r ffaith taw nifer fechan o gwmnioedd cynhyrchu sydd wrthi rwan, a felly 'does dim annogaeth i gystadlu'n galed am syniadau da i lenwi'r amserleni.

Bland...bland...bland.

Tudur Owen a'i rhaglen yn enghraifft perffaith o hyn. Edmygu Tudur yn fawr iawn fel perfformiwr byw, ond ar y teledu, mae wedi dioddef oherwydd fod y cwmni gafodd yr hawl i gynhyrchu ei raglen yr hawl hynny ar sail enw Tudur yn unig, yn hytrach nag ar sail cynnwys y rhaglen. Tan i'r cyfryngau gymerid hyn i ystyriaeth wneith ddim newid ! :ing: :ing: :ing:
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan tom.j » Iau 30 Rhag 2010 6:37 pm

Welodd rhywun rhaglen erchrydus Shan Cothi??? Deuawd gyda Ruth Madoc a darn o 'My Fair Lady' gyda'r 3 Tenor Cymreig!!!!!?????? Digon yw digon. Nid Light Enterianment oedd hwn ond Light Haint-ertainment!
Beth am gyfres tebyg i Elin Fflur neu Tara Bethan??? Wedi cael digon nawr o S4Cothi!!!C'mon S4C - tynnwch eich bys allan!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Mali » Iau 30 Rhag 2010 11:43 pm

sian a ddywedodd:
bed123 a ddywedodd:Dwi eitha hoffi Tudur Owen fel arfer, ond roedd y sioe dolig yn ddiflas braidd. Meical o Uned 5 gynt yn 'outrageous' eto a chwerthin wirion ddi-pwrpas, a gormod o jocs ddi-chwaeth innuedo oedd ddim yn ddoniol iawn, fel edrych ar ffilm carry on wael. A unwaith eto disgyn yn ol ar sylwadau o'r gynulleidfa. Fel ddwedodd Ben Elton, arwydd o digrifwr sy wedi rhedeg allan o jocs pan mae o'n dibynnu ar y gynulleidfa am deunydd...'Do I come to your workplace and polish your lathe, no, its my job to entertain you with my material!' Clywch clwych.


Cytuno'n llwyr. Mae Dafydd Êl yn foi ffraeth a difyr - fyse canolbwyntio arno fe a Donna Edwards wedi bod lot difyrrach na thiwn gron Meical.


Welais i'r rhaglen yma neithiwr , ac mi wnês i fwynhau Tudur Owen yn lot gwell fel fo 'i hun yn hytrach nag yng nghymeriad PC Leslie Wyn . Do , wedi chwerthin lot . :lol: Am y Meical 'ma o Uned 5 ....rioed 'di weld o o'r blaen ! Fel Sian , mi faswn i wedi mwynhau gwrando mwy ar Dafydd Ellis Thomas a Donna Edwards . Doeddwn i ddim yn gweld dim o'i le ar gyfraniad y gynulleidfa yn y stiwdio . 'Roeddent i weld yn mwynhau eu hunain beth bynnag . :winc: Lein orau : " Nadolig Llawen i tithau Tecwyn, a twll dy dîn di! " .....neu rhywbeth felly. :lol:
Joio !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron