Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
Josgin a ddywedodd:Wedi dweud hynny, C'mon midffild a Tudur Owen wedi fy rhoi mewn hwyliau da.
bed123 a ddywedodd:Dwi eitha hoffi Tudur Owen fel arfer, ond roedd y sioe dolig yn ddiflas braidd. Meical o Uned 5 gynt yn 'outrageous' eto a chwerthin wirion ddi-pwrpas, a gormod o jocs ddi-chwaeth innuedo oedd ddim yn ddoniol iawn, fel edrych ar ffilm carry on wael. A unwaith eto disgyn yn ol ar sylwadau o'r gynulleidfa. Fel ddwedodd Ben Elton, arwydd o digrifwr sy wedi rhedeg allan o jocs pan mae o'n dibynnu ar y gynulleidfa am deunydd...'Do I come to your workplace and polish your lathe, no, its my job to entertain you with my material!' Clywch clwych.
Duw a ddywedodd:YN anffodus, dyma gwendid S4C ac RC, methu â phlesio pawb. C'mon Midffild yn fy ngwylltio - ffili deg â deall gair.
sian a ddywedodd:bed123 a ddywedodd:Dwi eitha hoffi Tudur Owen fel arfer, ond roedd y sioe dolig yn ddiflas braidd. Meical o Uned 5 gynt yn 'outrageous' eto a chwerthin wirion ddi-pwrpas, a gormod o jocs ddi-chwaeth innuedo oedd ddim yn ddoniol iawn, fel edrych ar ffilm carry on wael. A unwaith eto disgyn yn ol ar sylwadau o'r gynulleidfa. Fel ddwedodd Ben Elton, arwydd o digrifwr sy wedi rhedeg allan o jocs pan mae o'n dibynnu ar y gynulleidfa am deunydd...'Do I come to your workplace and polish your lathe, no, its my job to entertain you with my material!' Clywch clwych.
Cytuno'n llwyr. Mae Dafydd Êl yn foi ffraeth a difyr - fyse canolbwyntio arno fe a Donna Edwards wedi bod lot difyrrach na thiwn gron Meical.
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai