Arlwy Nadolig S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan jammyjames60 » Gwe 31 Rhag 2010 2:13 pm

Be' 'dach chi'n son amdan? Mi o'dd Sioe Nadolig Tudur Owen yn wir entertaining a doniol. 'Dwi'n hoff iawn o'r set-yp sydd yn atgoffa fi'n fawr o'r Graham Norton Show sydd hefyd yn fy niddori i'n fawr. Roedd Dafydd Êl yn westai diflas a hynod o sych, felly dim syndod oedd Tudur Owen yn canolbwyntio mwy ar y gynulledifa nag ar ei westai.

'Dwi'm yn gwybod os oedd y rhaglen yma yn rhan o'r arlwy Nadoligaidd yn y bon, ond mi oedd y rhaglen Y Fenai yn un o'r rhaglenni dogfen orau 'dwi wedi gweld mewn meitin.

Mae 'na lot o grap ar S4/C, ond mae 'na lot o grap ar y sianeli eraill hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Mali » Gwe 31 Rhag 2010 5:37 pm

jammyjames60 a ddywedodd:Be' 'dach chi'n son amdan? Mi o'dd Sioe Nadolig Tudur Owen yn wir entertaining a doniol.


Cytuno! Rhaglen ddoniol a slic ar y naw . :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan tom.j » Sad 01 Ion 2011 1:43 am

S4C yn gorffen yr anus horibilius gyda dwy awr o gachu llwyr!! Wedi2010??? C'mon - Ma' Wedi 3 a 7 fel rhaglenni cylchgrawn o Kadakstan felly pam gorffen y flwyddyn gyda r'un tim? Angharad Mair yn dweud am 10.15pm -"Smo 12 o'r gloch yn bell nawr" - YDY - mae e awr a chwarter i ffwrdd. O leia roedd Graham Norton (BBC) yn onest gan ddweud ar ddechrau ei raglen "We recorded this two weeks ago!". Pryd recordiwyd Wedi 2010?? Cor Glanaethwy neu pwy bynnag o'n nhw - um....sori ond beth o'n nhw'n trio neud?? Geraint "Pwy ddwedodd mod i'n gallu canu?" Lovegreen gyda chan uffernol arall,merch fach o sioe dalent doedd neb wedi clywed son amdani yn canu can diflas tra'n ploncio ar y delyn,Tammy Jones yn canu 'Hogia Ni' tra'n trio cusanu bachan ifanc, Margaret Wms yn dweud bod hi heb glywed neb yn dweud gair cas am Pen 'dylyfu gen' Talar (Yn amlwg dyw Margaret ddim yn darllen maes-e.com) ac ar ben hyn BEIRDD!! (oes posib gwneud rhaglen Gymraeg heb feirdd ynddi???).........Dwi wir yn gobeithio daw llwyddiant i S4C yn 2011 a chawn weld nifer o rhaglenni da...neu ambell i raglen dda neith tro. Ond dwi'n credu roedd gorffen y flwyddyn gyda Wedi 2010 yn hiwj mistec! (Cofiwch er mor erchyll - dal yn well na gwylio Dai Llanilar mewn kilt!)
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan tom.j » Maw 04 Ion 2011 6:11 pm

Uchafbwyntiau'r Nadolig - Tudur Owen, Ar Y Tracs (Yn enwedig Beti George yn y carchar!) a Gari Tryfan.
Isafbwyntiau - 40 C'mon Midffild, Shan Cothi,Ista'nbwl, Wedi 2010
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Mali » Iau 06 Ion 2011 12:58 am

Cytuno... efo Rhaglen Tudur Owen a Gari Tryfan a'r Drych I'r Gorffenol :D , ond heb gael amser i weld Ar y Tracs eto. Ond mi faswn yn hoffi ychwanegu i\m rhestr i o ffefrynau'r Nadolig ar S4C, efo Dechrau Canu Dechrau Canmol o Clynnog Fawr a Carolau o Llangollen . Rhaglenni gwbwl wahanol dwi'n gwybod ond ardderchog eto ! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Leusi Leis » Gwe 14 Ion 2011 7:50 pm

Oedd roedd Tudur Owen yn fflat-roedd Dafydd El yn edrych yn petrified!
Nath rhywun weld Gwanas ar Byw yn ol y llyfr 'dolig? Roedd hi'n pissed! :D :D :D
Leusi Leis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Sul 17 Hyd 2010 12:53 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Josgin » Gwe 14 Ion 2011 9:29 pm

Ti'n siwr mai nid y ffordd arall rownd oedd pethau ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Bobi » Sul 23 Ion 2011 5:59 pm

Nes i fwynhau rhaglen Tudur dros y Nadolig, ond fel ffan mawr o C'mon Midffild ro'n i'n teimlo fod S4C wedi colli cyfle i wneud rhaglen ddogfen wych am y gyfres - roedd y cast i gyd wedi dod yn ol at ei gilydd (hyd yn oed y Sandra wreiddiol) am y tro cyntaf mewn blynyddoedd - pam na allen ni fod wedi gweld eu sgyrsiau nhw yn cofio'r rhaglen, cyfweliadau, atgofion, outtakes ac ati? Dim ond rhyw anecdotes wedi eu sgriptio gawson ni gan pawb... biti mawr colli'r cyfle dwi'n meddwl.
Bobi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Mer 16 Hyd 2002 12:43 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 6 gwestai