Josgin a ddywedodd:Petai rhai ohonoch yn gwybod cyn lleied o grefydd o unrhyw fath sydd yng ngwasanaethau arferol ysgolion uwchradd , a chyn lleied mae'r disgyblion yn gwrando , heb son am ddeall, yna ni fuasai yna ddadl mor frwd . Yr wyf yn edrych ymlaen at baratoi gwasanaeth ar ddiwrnod fy ymddeoliad sy'n llawn nonsens gwleidyddol anghywir a sarhaus. Dwi'n ofni na fuasai neb yn sylwi .
Digon teg Jos. Hoffwn gytuno bo gwasanaethau crefyddol yn ddi-fater - sneb yn gwrando. Er, i mi, fel anffyddiwr, nid dyna'r pwynt.
Fel y dywedais wrthot o'r blaen, dwi wedi clywed Moslemiaid a phobl of grefyddau eraill yn canu emynau a charolau. Nid oes ganddynt hangups...
Dyna'r ddadl mwya glib dwi wedi clywed 'to. Oherwydd bod rhai o grefyddau eraill yn fodlon eu canu, dylai pawb arall atal eu cwyno gwirion.
"Pam nac wyt ti'n canu Davies?"
"Dwi ddim yn gristion, syr".
"BETH? Mae Ali a Li yn foldon canu 'Tawel Nos', felly stop dy nonsens Davies a chana, neu geid di ei ganu ar dy ben dy hun o flaen pawb!"
"Ond syr, dwi ddim yn credu".
"Ti ddim yn credu mewn Sion Corn chwaith, ond rwyt ti'n dal i ddisgwyl anrhegion. Gwela fi ar y diwedd. Gwarthus..."
Ac eto...
Pennaeth: "Reit Mrs Jones, nawr bod ein gwasanaeth wedi gorffen, gofynnwch i'r disgyblion tu allan i ddod i mewn i gael clywed y cyhoeddiadau."
(700 o ddisgyblion eraill y troi i edrych ar 2 unigolyn yn slinco mewn)
Dyma'r ysgol fel dwi'n ei chofio (25 blynedd yn ol). Ydyn ni wir wedi symud mlaen? Mae datganiadau rhai yma yn dadlau yn erbyn unrhyw gynnydd.