gan Josgin » Sul 01 Mai 2011 10:39 am
Pnawn anhygoel ! Da iawn yr hogiau ( a'r "1762 +" oedd yno ) . Hen dro i'r " 100 -" a ddaeth o tu hwnt i Glawdd Offa .
TNS wedi dod acw eisiau ennill y gynghrhair , ond Bangor oedd eisiau ennill y gem.
Michael Johnston a Chris Roberts wedi bod yn wych drwy'r tymor , Craig Garside wedi bod yn hanfodol yn yr wythnos diwethaf, a gobeithio y caiff Jamie Reed wobr hefyd - arhosiad cymharol fyr, ond un o'r sgorwyr gorau i mi weld ar Ffordd Farrar erioed .
Rhan olaf y tymor wedi dangos fod gennym gystadleuaeth go iawn ar y brig.
Lawr i Llanelli dydd Sul nesaf am y gwpan .