Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n real ac yn bractegol. Pam wastio arian ar fyddin? Ella fod lle i rhyw warchodlu bychan, ond dyna'r oll. Cymru niwtral.
(A gyda llaw, lleisio barn y blaid rwyt ti a minnau'n aelodau ohoni ydw i)
Ella mod i'n aelod o'r blaid, ond tydi hynnu ddim yn meddwl mod i'n cytuno a hi ar bob dim.
Dwi'n meddwl fod niwtraliaeth yn lwfdra moesol, ac yn aml yn arwain at rywbeth lot fwy hyll. Edrych di ar y gwledydd niwtral yn ystod yr ail ryfel byd - Sbaen, Yr Iwerddon a'r Swisdir. Mi oedd 'na elfen gryf iawn o ffasgaeth yn bodoli, ac yn dal i fodoli, yn bob un o'r gwledydd hynny. Mae posib dadlau mai cefnogwyr Hitler a oedd yn rhy dlawd, llwfr, neu gwan i ochri efo fo yn agored oedd y dair gwlad.
Ac mi ydw i'n un sy'n credu'n gryf mewn byddinoedd, yn enwedig yn y cyd-destyn modern. Gwneud dim digon ydi methiant mwyaf byddinoedd heddiw - yn Srebrenica, Somalia a Rwanda yn ddiweddar, ac yn y Congo heddiw. Mae 'na gyfrifoldeb ar y gwledydd cyfoethog, grymus, i ddefnyddio eu cyfoeth a'u grym i helpu'r llai ffodus, a'r milwyr yn aml iawn ydi'r rhai sy'n gyfrifol am wneud hyn.
Dwi'n meddwl y bydd rhaid i mi ystyried yn ddwys cyn gyrru fy siec adnewyddu aelodaeth y Blaid.