erthyliad

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

erthyliad

Postiogan Lowri Fflur » Sad 27 Rhag 2003 2:11 am

Beth yw barn pobl eraill am erthyliad? Dwi' n teimlo bod dylia pobl gael yr hawl i ddewis i os maent eisiau erthyliad neu beidio. Y rheswm dros hyn yw oherwydd y credaf bod y babi yn rhan o gorff y fam tan ei fod yn cael ei eni. Wedi dweud hyn rwyf i yn bersonol yn erbyn erthyliad oherwydd ei fod yn sdopio bywyd. Nid wyf yn deall yn llawn pam bod pobl eisiau erthyliad.
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

erthyliad

Postiogan Dr Gwion Larsen » Sad 27 Rhag 2003 2:54 am

Wel mae'n ddrwg gennyf lowri er ein bod yn waed rwyf yn hanner cytuno ac hanner anghytuno gyda thi. Yn gyntaf credaf ni ddylai y Fam gael y dewis am erthyliad onid bai fod y Fam wedi'i threisio neu bod bywyd y babi ddim yn werth ei fyw (HIV,adnormality's, a.y.y.b.). Y rheswm credaf hyn yw bod yna fabi ac felly bywyd. Pam mae y Fam wedi cael cyfarthach rywiol gyda dyn, mai'n cymryd y siawns i fabi gael ei ffurfio a bywyd ac felly dyla'i fyw gyda'i dewis. Gallwn hanner maddau petai'n yn byw yn y deu nawfed ganrif pan oedd 'illegitimacy' yn anerbyniol ond mae ein cymdeithas wedi ei addasu i dderbyn hyn fel rhan o fywyd. Felly dyla'i y fam ddim cael y dewis am erthyliad hi gymrodd y siawns ac os mae'r drwg wedi dod i'r gwaethaf dyla'i heb gymryd y siawns.[/i]
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dylan » Sad 27 Rhag 2003 3:05 am

Mae'r cwestiwn 'pryd mae bywyd yn dechrau?' yn un hynod wrthrychol. 'Does dim pwynt pendant absoliwt, ac felly mae pob unigolyn yn dewis un yn ol eu credodau personol.

Ydi wancio yn lofruddiaeth?

Wrth gwrs, 'dw i'n credu bod defnyddio erthylu fel modd o wrthgenhedlu yn dwp ac anfoesol, ond y gwir plaen ydi bod damweiniau yn gallu digwydd.

felly, 'dw i o blaid dewis y fam
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: erthyliad

Postiogan Lowri Fflur » Sad 27 Rhag 2003 3:21 am

Dr Gwion Larsen a ddywedodd: Wel mae'n ddrwg gennyf lowri er ein bod yn waed rwyf yn hanner cytuno ac hanner anghytuno gyda thi. Yn gyntaf credaf ni ddylai y Fam gael y dewis am erthyliad onid bai fod y Fam wedi'i threisio neu bod bywyd y babi ddim yn werth ei fyw (HIV,adnormality's, a.y.y.b.). Y rheswm credaf hyn yw bod yna fabi ac felly bywyd. Pam mae y Fam wedi cael cyfarthach rywiol gyda dyn, mai'n cymryd y siawns i fabi gael ei ffurfio a bywyd ac felly dyla'i fyw gyda'i dewis. Gallwn hanner maddau petai'n yn byw yn y deu nawfed ganrif pan oedd 'illegitimacy' yn anerbyniol ond mae ein cymdeithas wedi ei addasu i dderbyn hyn fel rhan o fywyd. Felly dyla'i y fam ddim cael y dewis am erthyliad hi gymrodd y siawns ac os mae'r drwg wedi dod i'r gwaethaf dyla'i heb gymryd y siawns.[/i]


Does dim rhaid i ni gytuno ar bob dim na Gwion.

Rwyt ti yn dweud pam mae sefyllfaeoedd anodd y dylai y fam gael erthyliad? Dywedaisd os mae' r fam wedi ei threisio yna dylai gael yr hawl i gael erthyliad- syd wy ti' n profi os mae' r fam wedi ei threisio. Ydi hyn yn golygu achos llys? Beth os nad yw' r fam eisiau mynd i' r llys ond eisiau erthyliad? Syd ti' n gallu dweud bod y sefyllfa lle mae dynas wedi threisio yn rhoi hawl iddi gael erthyliad a nad yw sefyllfaeoedd eraill anodd yn rhoid yr un hawl? Ti' n dweud os mae gan y babi broblemau efo' i iechyd yna mae' n iawn erthylu. Fe ddefnyddiaisd yr esiampl o HIV fel rheswm i erthylu? Pwy sydd i ddweud nad yw bywyd plentyn yn werth ei fyw oherwydd fod ganddo HIV. Mae yna lawer o bobl sy' n sal yn hapus. Dywedaisd hefyd os mae abnormalaties- beth wy ti' n feddwl gyda hun? Does neb yn normal? Faint mor ddrwg sydd rhaid i' r abnormalities fod i gyfiawnhau erthyliad. Ble wy ti yn rhoid y llinell?

Rwyt yn dweud oherwydd bod dynes wedi cael cyfarthach rhywiol a dun mae' n rhaid iddi fyw a' r canlyniad o ella bod yn feichiog. Ond beth os oes sefyllfa lle mae plentyn sydd o dan oed yn cael ei gamdrin yn rhiwiol neu rhywbeth pam bod rhaid i nw fyw gyda' r canlyniadau? Mae' n hawdd i ti ddweud y dylai y fam fyw gyda' r canlyniadau oherwydd dy fod yn ddun a ni fydd rhaid i ti fyth wynebu penderfyniad fel erthyliad.

Dwi' n siwr bod yr oedd hi' n anodd iawn yn y deunawfed ganrif i gael plentyn allan o briodas a dywedaisd y byddat yn "hanner madda". Ond mae sefyllfaeoedd gwahanol ond yr un mor anodd heddiw ma lle mae hi' n anodd iawn cael plentyn felly dyliat "hanner madda" yn y sefyllfaeoedd yma hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: erthyliad

Postiogan cymraes95 » Sul 31 Hyd 2010 1:03 pm

Rydw i yn ysgol gyfun gymraeg ym mlwyddyn 11, yng nghanol wneud testun mynegi barn am Erthyliad. Mae'n rhaid i mi cytuno a Lowri Fflur, yn enwedig gan fy mod hefyd wedi astudio rhyw dan oed, yn ein wythnos drawscwricwlaidd. Os y'n ni'n hoffi fe neu beidio, fel rydych wedi ddweud, mae bywyd a cymdeithas wedi newid, mae arddegwyr yn cael rhyw dan oed, felly, beth? ie, fi'n gwybod, mae nhw'n bod yn wallus efo'i bywydau, ond rydyn ni dal methu gadael i'r arddegwyr, sy' yng nghanol y flynyddoedd mwya pwysig yn ei fywydau thaflu ei fywyd i ffwrdd oherwydd siawns?, falle' defnyddion nhw diogelwch, ac mae rhywbeth yn mynd yn anghywir, so' fi'n gwbod, ond mae'n anghywir i feddwl fod ferched/menywod yn dioddef o'r canlyniadau, tra bod y fechgyn/dynion yn gallu rhedeg i ffwrdd neu cael gwared o'r babi o'u fywydau.Ond mae gan bawb safbwyntiau a brofiadau gwahanol, er 'ni dyma fy marn i. :)
cymraes95
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sul 31 Hyd 2010 12:45 pm

Re: erthyliad

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 14 Rhag 2010 4:21 am

'Sdim esgus i bobl gael erthyliad jyst achos nad ydynt "eisiau" babi am rhesymau ariannol/personnol ac ati. Mae pobl yn son am "perygl i' fywyd y fam" ond yng Nghanada, "dim rheswm o gwbl" ydy'r rheswm mwyaf cyffredin am erthyliadau. Grêt. Mae 'na pwynt lle mae'r holl beth yn mynd yn rhy bell ac yma dan ni di cyrraedd y bwynt na.

Hoffwn i fod agor i ddadlau rhesymegol. Yn anffodus 'sdim unrhyw dadlau i'w weld: y problem ydy bod yr anti-lifers yn defnyddio dadlau ad-hominem a stereoteipiau negyddol i geisio distewi'r ochr arall, di nhw ddim eisiau cylwed. Dyma'r prif rheswm i fi ddyfod yn gwrth-erthyliad- on i jest yn casau gweld y fath 'ma o beth. Dwi'm yn gwybod os ydy hyn yn gwir yn y DU ond yng Nghanada maen nhw'n nucking futs.

Y rheswm dros hyn yw oherwydd y credaf bod y babi yn rhan o gorff y fam tan ei fod yn cael ei eni.

Wel mae hyn yn dibynnu ar be ti'n ystyried yn "rhan ar wahan". Os dwi'n cofio'n iawn, roedd y rhufeinaidd yn credu mai "rhan" o'r dad oedd plant tan iddynt gyrraedd aeddfedrwydd (!)- tan hyn, oedd y dad yn gallu eu lladd yn gyfreithiol. Dwedwn i fod hwn yn mynd yn ôl i'r un proces rhesymegol...
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: erthyliad

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 18 Rhag 2010 11:27 pm

O-Ce, fel mae'n digwydd, gwr ydy i sy wedi cael y snip. Onid hyn yn debygol i erthyliad? Oherwydd rwan medra i ymgydio heb gael baban: eill y rhannau o'ng nghorff i oedd am greu babanod ddim yn gwneud hynny fwyach. Dim byd o'i le arnyn nhw - mae miliynau oni bilynau o ddarpar-fywydau yno - ac fy hun wedi dewis eu rhwystro nhw. Oedd na fygwth i'm mywyd i? Nac oedd. Ai fy hunan ydyn nhw? Ie - er ni fyddai dim bywyd newydd oddi wrthyn nhw yr un a finnau.

Ac mae hyn yn wir am fenywod hefyd. Rhan ohonyn nhw mae baban heb eni ac eu dewis nhw ai erthylu ai peidio.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: erthyliad

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 14 Ion 2011 3:21 am

Ti'n cymharu Apples and Oranges.

Sperm =/= babi, 'sdim ond hanner o'r gwybodaeth genetig angenrheidiol ynddynt i greu bywyd.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: erthyliad

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 14 Ion 2011 6:33 pm

Ti erioed wedi bod yn feichiog? "Don't you know that it's different for girls" )pwy ganodd hynny?)
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: erthyliad

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 08 Maw 2011 6:45 am

Sori ond be ti'n baldorddi amdani?
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 8 gwestai

cron