Ych a fi. ydy mae o. Roedd o yn y newyddion y llynedd wedi iddo gael rhyw rant yn erbyn rhywun am danio tân gwyllt ar y Flwyddyn Newydd Tseiniaidd. Beth am fynd draw efo'r Fari Lwyd??
Wel, Ceidwadwr ydi Norman Tebbit, mae'r Ceidwadwyr mewn cynghrair efo'r Rhydd-Dems, dro diwetha roedd y Guardian yn cefnogi'r Rhydd-Dems. Dyna beth sy'n digwydd!
Mae'r Guardian yn gwadd erthyglau yn aml gan yr 'ochr dywyll'. Maent yn rhoi llais iddynt er balans, diddordeb, gweld be sydd ganddynt i'w ddweud. Gwelir hyn yn eitha aml, pobl fel John Bolton a Karl Rove yn cael colofn i rantio am ryddid a'r force for good that is the United States of America. Nid yw colofn yn olygu fod y Guardian yn cytuno a'r dyn na'r neges.