Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Be ddeudodd 12:45 amser maith yn ol?
Ac be dy Menter ond cais am greu swyddi lleol, cadw'r cymuned yn fwy ac yn heini? Efallai dyd o ddim yn gwneud y tro'n llwyr, ond mae'n well na dim byd. Beth fyddai "Claddu Iaith" yn argrymu yn ei le? Hen bryd bod yn adeiladol, nid difethol.
Cytuno fod gwaith yn cael eu greu, ond faint? 20 trwy Gymru gyfan? ddim yn lot o gwbwl, a gan fod y tal yn eita isel, dydy pobol ddim yn aros, neu yn hytrach ddim yn gallu fforddio aros yn y swydd am hir.
Roedd mwy o weithgarreddau yn digwydd yn yr ardaloedd cyn y mentrau iaith. Gwnewch arolwg, ac fe welwch.
Allen ni wario'r arian yma yn well i ddiogelu'r iaith yn hytrach na talu am griwiau bychain i godi'r faner i hyrwyddo.
Mae angen i ni gyd, pob un ohonom frwydro nawr, os nad ydy yn rhy hwyr.
I ni yn plygu at bawb, ond neb yn plygu ato ni. Cymerwch cyfieithu ar y pryd.
Gwych o beth ydy cael cyfarfodydd yn yr Iaith Gymraeg gyda Cyfieithydd wrthi yn y gornel ar gyfer y di Gymraeg. OND, ystyriwch hwn - Pryd cafon ni'r Cymru Gyfieithu ar y pryd mewn cyfarfod Saesneg? Duw a gwaredo'r person cynta fydd yn ymateb ein bod ni yn deall Saesneg. Nid dyna'r pwynt o gwbwl.
I'r Iaith barhau, rhaid, rhaid, rhaid i ni wneud rhywbeth nawr, neu fydd hi yn rhy hwyr....efallai y bod hi.