gan Hen Rech Flin » Mer 26 Ion 2011 2:10 am
Y term llawn yn Saesneg (mae'n dod o'r Llyfr Gweddi Cyffredin) yw May God rest his soul, a'r cyfieithiad cywir yw Bydded i Dduw rhoi gorffwys i'w enaid . Megis yn y Saesneg mae gorffwys i'w enaid yn cael ei ddefnyddio, ond fel sydd wedi ei awgrymu uchod hedd /heddwch i'w lwch sy'n cael ei ddefnyddio fel y term cyffelyb cyffredin yn y Gymraeg