Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:3. Dynas ganol oed sy'n isda wrth fy ochr ar y tren i dre'r Sbarticys. Mae ganddi dreinyrs gwyn am ei thraed, jins glas gola, cot weu ddu a rwbath o dan honno... Ar ol ei hastudio lawar mwy nag sy'n weddus ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwelaf mai top brown gola sydd ganddi.
Ei gwerth? Ni thybiaf ei bod hi'n arbennig o gyfoethog. Ond mae hi werth y byd i rywun ma siwr tydi. Ei gwerth i mi? Ddudwn i ddim ei bod yn ddi-werth i mi chwaith.
Gwen a ddywedodd:Ac mae gwerth pob dim yn cael ei fesur mewn styrling gynnoch chi?
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:
3. Dynas ganol oed sy'n isda wrth fy ochr ar y tren i dre'r Sbarticys. Mae ganddi dreinyrs gwyn am ei thraed, jins glas gola, cot weu ddu a rwbath o dan honno... Ar ol ei hastudio lawar mwy nag sy'n weddus ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwelaf mai top brown gola sydd ganddi.
Ei gwerth? Ni thybiaf ei bod hi'n arbennig o gyfoethog. Ond mae hi werth y byd i rywun ma siwr tydi. Ei gwerth i mi? Ddudwn i ddim ei bod yn ddi-werth i mi chwaith.
Manon a ddywedodd:'Mol i. 'Dwi'n edrych tua 5 mis yn feichiog ar hyn o bryd achos myffins, cyris, cwcis a chrisps...
Manon a ddywedodd:'Sgwennu llythyr ffug i problem page Just 17 yn rar gefn ffrind pan o'n i tua 7. Roedd o'n cynnwys un reg, ac mi wnaeth fy annwyl chwaer fy mlacmeilio i am FLYNYDDOEDD am y peth.
Gwen a ddywedodd:Manon a ddywedodd:'Mol i. 'Dwi'n edrych tua 5 mis yn feichiog ar hyn o bryd achos myffins, cyris, cwcis a chrisps...
Ma isho i mi ddysgu darllen yn fwy gofalus*. Wele fi ryw ugian eiliad yn ôl: (yn barod i decsdio'r Twyllwr i ddeud!!)
* Deu gwir, ma hyn yn reit hanfodol ac ystyried fy swydd i.
Ar nodyn arall, dwi'n hapus iawn iawn fod Manon yn meddwl mod i'n argyhoeddi fel rhywun o'r 19g. Ies!
Dychwelyd i Pump am y Penwythnos
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai