Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan ceribethlem » Gwe 04 Chw 2011 2:04 pm

Cyffro'n dechre codi nawr.

Fi'n credu bod eu rheng flaen nhw'n drech na rhai ni, ond fi ddim yn credu bydd y sgrym yn chwalfa llwyr.
Mae'n ail rheng ni yn well, er mae'r linell yn gallu bod yn fregus i'r ddau dim ar hyn o bryd.
Rheng ol ni'n well na'i un nhw, bydden i'n disgwyl i'n bois ni (Warburton a Lydiate) i ennill ardal y dacl. Bydd Easter a Haskell yn well yn cario.

Haneri'n weddol gyfartal, Yonugs mynd i fod yn wych, ond yn ddi-brofiad. Galle Phillips cael hwyl os yw'n chwarae ar ben ei gem. Syephen Jones yn well na Flood, felly lot yn dibynnu ar safon y bel ddaw iddyn nhw.

Canolwyr ni yn fwy grymus, ychydig mwy o greadigwrydd gyda nhw yn Hape. Er fi ddim yn credu byddan nhw'n lledu'n ormodol gyda'i rheng ol nhw.

Y tri cefn Lloegr yn well na'n tri ni, er fod Shane yn well na'r un ohonynt. Bydd rhaid i Hook ganolbwyntio a pheidio a chicio'n wael achos bydd Foden yn gallu ein niweidio ni tra'n gwrthymosod. Ashton hefyd yn rhedwr cryf yn erbyn amddiffyn simsan. Bydd lot o bwysau ar Stoddart i daclo'n effeithiol.

Y taclo ac ardal y dacl fydd yn holl bwysig, os gallwn ni reoli hwnna (a ddylen ni neud) a gwneud y penderfyniadau cywir, does dim rheswm pam na allwn ni ennill.

Hook a Stoddart fi'n becso am, y ddau yn gallu fod yn euog o brainfarts rhyfedda, ac eiliadau o athrylith hefyd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan Duw » Sad 05 Chw 2011 12:00 pm

Ok, wel dyna'r pencampwriaeth wedi cwpla am flwyddyn arall. :rolio:

Gobeithio cawn ni gyfle i ware nhw eto yng Nghwpan y Byd - ond dwi ddim yn gweld ni'n mynd trwodd. Gats yn gorfod mynd - colled ar ol colled. Beth sydd yn mynd ymlaen yn y sesiynau ymarfer? Cicio crap, llinell crap, sgrym crap. Colli 3 pwynt tra bo Sais bant o'r cae - dyna dalent! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sul 06 Chw 2011 11:53 am

Ni'n methu a chreu unrhywbeth. Ni'n dal mor hawdd i amddiffyn yn erbyn. Ni bob amser yn symud i'r un cyfeiriad, heb gynnig dim gwahanol, does neb yn dod o ddyfnder, does neb yn cynnig onglau. Paint by numbers rygbi sydd gyda ni.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan Duw » Sul 06 Chw 2011 5:03 pm

FFili anghytuno Ceri. Gyda chwaraewyr o safon Shane a Jamie - sawl gwaith a wnaeth y sylwebydd eu henwi? World Class yw'r geirie mae rhai wedi defnyddio. Sawl tim sydd â chwaraewyr WC sy byth yn lledu'r bel iddyn nhw? Allech chi ddychmygu gem lle nac oedd BOD yn derbyn y bel?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan ceribethlem » Llun 07 Chw 2011 5:59 pm

Lot o alw i gael gwared o Stephen Jones, sy'n methu'r pwynt rhywfaint. Os yw'r cefnwyr yn gorwedd yn holol fflat gyda neb yn rhedeg ongl, ac mae Mike Phillips yn drwsgwl yn cael y bel mas beth yn union ddylai'r maswr ei wneud? Ife rhywun i geisio bylchu? Er fod y chwareuwyr yn amlwg wedi eu or-hyfforddi i fynd i un cyfeiriad tan cyrraedd yr ystlys cyn newid cyfeiriad i'r ystlys arall. Gyda Hook yn faswr, mae'n bosib iawn y gwelwn bylchiadau pert, ond fi'n ofni caiff rhain eu dilyn gyda chic gosb yn erbyn Cymru am ddal mlaen i'r bel gan nad oes neb yna i gefnogi Hook.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan Duw » Llun 07 Chw 2011 6:20 pm

Mike Phillips yn shambls. Dwayne Peel ddim llawer gwell. Stephen Jones braidd yn ddi-gyfeiriad. Diffyg pwyll yn yr hanner cyntaf. Pethau'n siapo'n well ar ddiwedd yr ail hanner. Mynd trwy'r 'phases'. Wylle bydde Hook yn 10 yn well, ond dwi'n meddwl bo ishe sorto 9 allan yn fwy na 10.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan ceribethlem » Maw 08 Chw 2011 7:26 pm

Tim Cymru i wynebu'r Alban:

Lee Byrne (Gweilch);
Morgan Stoddart (Scarlets),
Jamie Roberts (Gleision),
Jonathan Davies (Scarlets),
Shane Williams (Gweilch);
James Hook (Gweilch),
Mike Phillips (Gweilch);

Paul James (Gweilch),
Matthew Rees (Scarlets,capten),
Craig Mitchell (Gweilch),
Bradley Davies (Gleision),
Alun Wyn Jones (Gweilch),
Dan Lydiate (Dreigiau),
Sam Warburton (Gleision),
Ryan Jones (Gweilch).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets).


Stoddart ar yr asgell er iddo dorri ei law!Hook yn faswr :ofn: Tavis ar y fainc :ofn: Fi'n hoff o Tavis, crwtyn ffein, ac fi'n falch fod cyfle i un o'm cyn ddisybion ennill cap iawn, ond sdim lot o brofiad gyda fe! Mae'n debyg fod Peel wedi cael anaf yn erbyn Lloegr.

Fi'n darogan buddugoliaeth weddol gyffyrddus i'r Alban.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Chw 2011 2:20 pm

Cromlin gobaith wedi bwrw'r gwaelod ac ar ei ffordd nol lan eto.
Erbyn 3:30 fory byddai'n hyderus. Ar ol cyfarfod Sir UCAC nis fory a chwpwl o beints i ddilyn byddai'n hollol hyderus ac yn sicr o fuddugoliaeth safonol!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sad 12 Chw 2011 6:49 pm

Lwcus fod dim clem gyda'r Alban! Synnu braidd, o'n i'n disgwyl lot mwy mas o nhw ar ol iddyn nhw guro De'r Affrig yn yr Hydref a sgorio tri chais yn erbyn Ffrainc.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Postiogan Gowpi » Llun 14 Chw 2011 11:55 am

We'n i'n teimlo treni dros yr Alban, yn meddwl i fy hunan, o, fel'na i ni fel arfer yn whare!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron