Dwi ddim yn mwynhau lot i fod yn onast. Ond gan ddweud hynny, o ran y cyntaf, yr ail, a hefyd y drydedd rhaglen, mae'n rhoi jyst abowt digon i mi fod isho gwbod be sy'n digwydd yn y nesaf!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?" "Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"
Fi dechre aros i rwbeth i ddigwydd nawr. 'Na gyd sy'n digwydd yw fod Alys yn shelffo rhyw foi, mae'r boi lan llofft yn nyts, ac mae'r holl grachach yn dechre cwmpo mas a'u bywyd neis yn dechre dadelfennu.
Mae'r ddwy bennod diweddar wedi bod yn lawer fwy difyr. Cyn hynny mi oeddwn bron a rhoi'r ffidil yn y to ond dwi'n falch fy mod i wedi dyfalbarhau. Mae Sara Gregory yn wych ac Aneirin Huws hefyd (dwi'n ffan mawr o AH). Y syndod mwyaf i mi oedd William Thomas, dwi erioed wedi bod yn hoff ohono fel actor ond yn y gyres mae o'n gret.