Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
Khmer a ddywedodd:dafydd a ddywedodd:Dyna'r sgandal mewn gwirionedd.
dyna'r unig sgandal? Doedd e ddim yn sgandal hefyd fod y comisiynwyr a'r pennaeth yn rhoi gwaith i'r cwmniau oedd gyda nhw 'shares' ariannol ynddynt?!
Hedd Gwynfor a ddywedodd:A fyddai'n syniad gwell gwario arian prin S4C ar ddarlledu stwff newydd yn ystod yr oriau brig yn unig, ar S4C ac S4C2? Rhaglenni i'r oedran 18-40/50 ar S4C2 yn yr hwyr, a rhaglenni sy'n fwy tebygol i apelio at y to oedran 40/50+ ar S4C gyda'r hwyr?
S4C1 - Gellid cael rhaglen newyddion/brecwast da yn y bore, repeats trwy'r dydd (Goreuon S4C o'r archif??) + falle darllediadau pwysig o'r Cynulliad a wedyn stwff newydd i'r to hyn 40/50+ o 6pm ymlaen.
S4C2 - Gellid darlledu rhaglenni i blant ar S4C2 yn y bore a'r prynhawn tan tua 6pm (Gellid darlledu stwff i blant newydd + stwff o'r archif, bydde plant heddi yn joio Ffalabalam fi'n siwr!!), a wedyn stwff i'r oedran 18-40/50 rhwng 6pm a 12am.
Ydy hyn yn gwneud synnwyr?
tom.j a ddywedodd:Tase rhain yn rhaglenni Saesneg bysen nhw naill a'in cael eu darlledu yn ystod y dydd, hwyr y nos, neu falle ar fore Sul ar BBC2 - nid ar oriau brig!
Lals a ddywedodd:Efallai bod cymeriadau cymreig ar Gavin and Stacey a bod tipyn ohono wedi ei ffilmio yn y Barri ond nid cynhyrchiad o Gymru yw Gavin and Stacey.
tom.j a ddywedodd:Lals a ddywedodd:Efallai bod cymeriadau cymreig ar Gavin and Stacey a bod tipyn ohono wedi ei ffilmio yn y Barri ond nid cynhyrchiad o Gymru yw Gavin and Stacey.
Beth bynnag - sdim un comedi Cymraeg wedi cyrraedd safon y math yma o gyfres erioed...ac roedd nifer fawr o'r actorion ynddi yn Gymry. (Ac yn ol yr hyn dwi'n ei ddeall roedd rhan fwya o'r ffilmio yng Nghymru - hyd yn oed y darnau oedd fod yn Lloegr!)
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai