gan Hogyn o Rachub » Sul 06 Maw 2011 9:32 am
Iawn, mi ddechreua i ar y gwael er mwyn gorffen yn gadarnhaol! O ddifrif, yr unig beth sy’n fy mhoeni am Golwg360 ydi bod safon yr iaith yn gallu bod yn isel, mae arna’ i ofn. Dwi’n deall nad oes gennym ni iaith newyddiadurol yn Gymraeg ond dydi hynny ddim yn esgus am gamdreiglo , geiriau gwallus, camsillafu a chyfieithiadau uniongyrchol o ymadroddion Saesneg (“yn yr un cwch” oedd un a’m tarodd yn ddiweddar ... ych a fi!). Rŵan, dim ond un elfen ar y wefan ydi honno ond mae’n elfen bwysig a buaswn i’n awgrymu mai efallai diffyg golygu cychwynnol sydd ar fai am hyn.
SERCH HYNNY
Dwi’n licio Golwg360 ar ei newydd wedd yn fawr iawn, mae’n welliant mawr o’r hyn a gafwyd. Mae’r erthyglau eu hunain yn well o ran y wybodaeth sydd ynddynt, mae ‘na drawstoriad da o straeon ac yn arbennig straeon na fyddech chi’n eu cael yn unman arall – mae hyn yn gryfder mawr achos mae’n anodd cystadlu â’r BBC. Dwi’n mwynhau’n fawr yr adran ‘Rhyfeddodau’ fy hun! Hefyd, roedd y blog byw ddydd Gwener, er iddo ddechrau marw tua chanol y pnawn, yn hawdd y ffynhonnell orau o wybodaeth drwy hanner cynta'r diwrnod.
Yn bersonol dwi’m yn rhyw fentro y tu allan i’r adran newyddion yn aml, ond mae syniadau’r adran Calendr, Blog a Bwyd yn dda. Un peth nad oedd rili yn gweithio ar yr hen wefan oedd ‘Lle Pawb’ ac ‘Y Maes’ yn fy marn i – dydi’r adrannau hynny heb eu cwblhau eto hyd y gwelaf i, felly gobeithio y byddan nhw’n wahanol.
Ar y cyfan, dwi’n licio’r wefan newydd a dwi’n mynd yno sawl gwaith y dydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"