Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Sul 06 Maw 2011 8:52 am

Be di'ch barn chi am Golwg 360?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 06 Maw 2011 9:32 am

Iawn, mi ddechreua i ar y gwael er mwyn gorffen yn gadarnhaol! O ddifrif, yr unig beth sy’n fy mhoeni am Golwg360 ydi bod safon yr iaith yn gallu bod yn isel, mae arna’ i ofn. Dwi’n deall nad oes gennym ni iaith newyddiadurol yn Gymraeg ond dydi hynny ddim yn esgus am gamdreiglo , geiriau gwallus, camsillafu a chyfieithiadau uniongyrchol o ymadroddion Saesneg (“yn yr un cwch” oedd un a’m tarodd yn ddiweddar ... ych a fi!). Rŵan, dim ond un elfen ar y wefan ydi honno ond mae’n elfen bwysig a buaswn i’n awgrymu mai efallai diffyg golygu cychwynnol sydd ar fai am hyn.

SERCH HYNNY

Dwi’n licio Golwg360 ar ei newydd wedd yn fawr iawn, mae’n welliant mawr o’r hyn a gafwyd. Mae’r erthyglau eu hunain yn well o ran y wybodaeth sydd ynddynt, mae ‘na drawstoriad da o straeon ac yn arbennig straeon na fyddech chi’n eu cael yn unman arall – mae hyn yn gryfder mawr achos mae’n anodd cystadlu â’r BBC. Dwi’n mwynhau’n fawr yr adran ‘Rhyfeddodau’ fy hun! Hefyd, roedd y blog byw ddydd Gwener, er iddo ddechrau marw tua chanol y pnawn, yn hawdd y ffynhonnell orau o wybodaeth drwy hanner cynta'r diwrnod.

Yn bersonol dwi’m yn rhyw fentro y tu allan i’r adran newyddion yn aml, ond mae syniadau’r adran Calendr, Blog a Bwyd yn dda. Un peth nad oedd rili yn gweithio ar yr hen wefan oedd ‘Lle Pawb’ ac ‘Y Maes’ yn fy marn i – dydi’r adrannau hynny heb eu cwblhau eto hyd y gwelaf i, felly gobeithio y byddan nhw’n wahanol.

Ar y cyfan, dwi’n licio’r wefan newydd a dwi’n mynd yno sawl gwaith y dydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan sian » Sul 06 Maw 2011 10:14 am

Rwy'n dilyn Golwg360 trwy Twitter gan glicio ar y straeon sydd o ddiddordeb. Mae hyn yn gweithio'n dda.
Mae penawdau Golwg360 ar Twitter lot fawr yn well na rhai newyddion BBCCymru - o leia maen nhw'n rhoi rhyw syniad i chi beth sydd yn y stori!

Ro'n i'n disgwyl y byddai Golwg360 yn lot fwy deinamig a rhyngweithiol a llawn dychymyg.
Licio'r syniad o flogio byw e.e. y refferendwm. Ond y llynedd fe ddywedon nhw y byddai blogio o Wyl y Gelli - fe ddechreuodd hyn yn grêt ond fe ddaeth i ben ar ôl rhyw ddiwrnod heb esboniad.

Mae safon yr iaith yn broblem fawr. Alla i ddim deall sut bod rhywun sy'n dymuno gwneud gyrfa yn trin geiriau yn gallu bod mor ddi-hid. Maen nhw'n cael eu talu i ysgrifennu Cymraeg - mi ddylen nhw ei wneud yn iawn! Pe bai saer coed yn mynd i gartref un o ohebwyr Golwg360 ac yn gwneud gwaith mor slapdash mae'n siwr y byddai'n cwyno go gloi! Mae pethau fel "dau oed" yn wallgo!

Fe ysgrifennais i'r neges isod at Golwg360 ar 4 Ionawr ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed gydnabod ei derbyn:
Annwyl Olygydd

Does arna i ddim eisiau swnio'n flin ond, wir, mae safon iaith Golwg360 yn dorcalonnus.

Rwy'n deall efallai bod y gohebwyr yn ifanc a dibrofiad ond oni ddylai fod rhywun yn edrych dros eu gwaith ac yn eu hannog i edrych mewn geiriadur os nad ydyn nhw'n siwr o sillafiad neu genedl enw?

Ddoe a heddiw rwy wedi sylwi ar bethau fel drysu cenedl enwau geiriau syml fel : stryd, croesfan, rhyfel, blwyddyn, miliwn, cwmni a hyd yn oed dynes!!
Mae'r gohebwyr yn aml yn drysu rhwng "â" a "gyda" hefyd - merch yn mynd i "aros â pherthnasau".
Ac mae llawer iawn o gamdeipio - graenu am graeanu, gyfra am gyrfa, bleidio am bledio.

Ro'n i'n meddwl bod y sefyllfa wedi gwella'n ddiweddar ond mae'n ymddangos nad yw!

Mae'n ddrwg gen i gwyno ond trin iaith yw gwaith gohebwyr ac mae hwn yn wasanaeth cenedlaethol sy'n cael arian cyhoeddus.

Sori!

Siân Roberts


Dyma un llithriad o stori ymddangosodd heddiw - yr unig un i mi edrych arni! - "mewn digwyddiad a oedd wedi ei drefnu i gyd-redeg â chynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig yng ngherddi Sophia heddiw."

Gyda llaw - does gen i ddim gwrthwynebiad i "yn yr un cwch" - mae rhai idiomau yn ffitio'n hapus mewn gwahanol ieithoedd a dwi'n meddwl bod hwn yn un ohonyn nhw.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 06 Maw 2011 1:37 pm

Fydd rhaid ni gytuno i anghytuno ar y cwch!

Ga'i ychwanegu o ran yr iaith; mae hi wedi bod yn broblem o'r cychwyn cyntaf, ond mae'n broblem y mae digon o bobl wedi tynnu sylw ati ers nid misoedd, ond blynyddoedd erbyn hyn, ac mae'n drist bod Golwg360 yn amlwg ddim o'r farn ei bod hi'n bwysig oherwydd dydi'r safon heb wella mymryn. Piti mawr hyn ydi ei fod yn rhywbeth hawdd i'w wella a hynny drwy olygu; mae rhywun yn cael yr argraff nad ydi'r bobl sy'n 'sgwennu'r erthyglau yn darllen dros eu gwaith eu hunain weithiau, neu hyd yn oed nad oes trefn olygyddol sylfaenol ar waith.

Byddai rhedeg Cysill dros bob erthygl cyn ei chyhoeddi yn gam cyntaf da mewn nifer o achosion!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan sian » Sul 06 Maw 2011 2:40 pm

Wel, ie, mae Cysill yn help ac mae golygu yn help ond os nad ydi rhywun sy'n gwneud bywoliaeth trwy ysgrifennu yn sylweddoli mai benywaidd yw "dynes" ....

Dw i'n meddwl ei fod yn andros o cheek bod Jac Codi Baw yn y cylchgrawn Golwg yn tynnu sylw at bytiau gwallus sydd wedi cael eu cyfieithu gan beiriant a bodau dynol yn Golwg360 yn gwneud cymaint o lanast.

Mae Briws yn cytuno â fi (a Golwg360) am y cwch, gyda llaw :D :D :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 06 Maw 2011 4:09 pm

Haha iawn mi gei di'r cwch! :D

A ti'n hollol gywir, wrth gwrs. Serch hynny, yn fy marn i, o ystyried natur y camgymeriadau, brysio yn hytrach nag anallu ieithyddol efallai ydi gwraidd y broblem yn Golwg360. Hynny ydi, mae unrhyw un yn gallu gwneud camgymeriadau dwl wrth frysio gwaith, yn enwedig dybiwn i wrth fod ar frys i ysgrifennu a chyhoeddi erthyglau, a dyma lle mae proses wirio/golygu, boed honno'n fras ai peidio, yn sicrhau'r safon ieithyddol. Efallai mai'r darn gorau o gyngor y gallai rhywun ei roi i Golwg360 ydi treulio ychydig mwy o amser dros yr erthyglau i sicrhau safon yr iaith ... siarad o brofiad poenus dwi 'fyd o ran y cyngor hwnnw, achos dwi wedi'i gael droeon! ... achos mi fuaswn i'n poeni'n fawr petai rhai o'r pethau sy'n cael eu cyhoeddi ar Golwg360 yn cael eu golygu.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Sut Olwg360 sydd ar y lle?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 12 Maw 2011 7:47 pm

Dwi ddim yn un am gwyno am safon iaith fel arfer, achos nid yw safon fy ysgrifennu i gyda'r gore, ond mae'r stori yma ar wefan golwg360 heddi' wel...

http://www.golwg360.com/newyddion/pryda ... yffredinol

Fe allai term Senedd yr Alban barhau am flwyddyn ychwanegol yn y dyfodol, yn ôl Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore.

Fe fyddai’n newid yn debygol o arwain at alwadau i wneud yr un fath yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae termau Cynulliad Cymru a Senedd yr Alban yn parhau am bedair blynedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron