rwyf wedi clywed 'fi afo ' yn lle 'mae gyda fi'
Ben Alun a ddywedodd:Mae strwythur y frawddeg 'mae gyda fi' yr un mor gywir ag ydy 'mae gen i'.
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi byth wedi clywed
Ramirez a ddywedodd:Ben Alun a ddywedodd:Mae strwythur y frawddeg 'mae gyda fi' yr un mor gywir ag ydy 'mae gen i'.
Ydi, mae hi'n gywir o ran strwythur, ond tydi "gyda" ddim yn gwneud synnwyr yn y frawddeg i mi, er ei bod yn cael ei ddefnyddio'n aml bellach. Ella 'mod i'n anghywir, ond dwi'n siwr nad ydi "mae gyda fi" yn gywir. "Mae gen i" neu "Mae genyf i" ddylai o fod - tydi'r gair "gyda" ddim yn golygu'r un peth nac yn cyflawni'r un peth o fewn y frawddeg. All rhywun fy rhoi yn fy lle ar hyn plis?!Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi byth wedi clywed
Aha! Mae hwn yn un dwi 'di bod yn pendroni amdano hefyd!
Be wyt ti'n olygu efo "byth wedi clywed" - "never heard", ynteu "still haven't heard" ?
"Dwi erioed wedi clywed" fyswni'n ei ddeud, ond dwi 'di sylwi fod "byth wedi clywed" yn dechrau cael ei ddefnyddio'n aml, yn enwedig yn y de. Mae o fel cyfieithiad od o'r Saesneg (byth=ever, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio yn lle "never".)
Os fysa rhywun yn deud "Dwi byth wedi bod dramor", mi fyswni'n cymryd hynny i olygu "Dwi DAL heb fod dramor, mae'n bryd i mi fynd!" yn hytrach na "Dwi erioed wedi bod dramor." Neu enghraifft arall, os fysa genti rywbeth angen ei wneud a dy fod di dal heb ei wneud o: "Dwi byth wedi clirio'r ardd 'na, mi oni wedi meddwl gwneud ddoe", yn hytrach nag i olygu dy fod ti erioed wedi clirio'r ardd yn dy fywyd.
Opiniyns?
osian a ddywedodd:Ramirez a ddywedodd:Ben Alun a ddywedodd:Mae strwythur y frawddeg 'mae gyda fi' yr un mor gywir ag ydy 'mae gen i'.
Ydi, mae hi'n gywir o ran strwythur, ond tydi "gyda" ddim yn gwneud synnwyr yn y frawddeg i mi, er ei bod yn cael ei ddefnyddio'n aml bellach. Ella 'mod i'n anghywir, ond dwi'n siwr nad ydi "mae gyda fi" yn gywir. "Mae gen i" neu "Mae genyf i" ddylai o fod - tydi'r gair "gyda" ddim yn golygu'r un peth nac yn cyflawni'r un peth o fewn y frawddeg. All rhywun fy rhoi yn fy lle ar hyn plis?!Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi byth wedi clywed
Aha! Mae hwn yn un dwi 'di bod yn pendroni amdano hefyd!
Be wyt ti'n olygu efo "byth wedi clywed" - "never heard", ynteu "still haven't heard" ?
"Dwi erioed wedi clywed" fyswni'n ei ddeud, ond dwi 'di sylwi fod "byth wedi clywed" yn dechrau cael ei ddefnyddio'n aml, yn enwedig yn y de. Mae o fel cyfieithiad od o'r Saesneg (byth=ever, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio yn lle "never".)
Os fysa rhywun yn deud "Dwi byth wedi bod dramor", mi fyswni'n cymryd hynny i olygu "Dwi DAL heb fod dramor, mae'n bryd i mi fynd!" yn hytrach na "Dwi erioed wedi bod dramor." Neu enghraifft arall, os fysa genti rywbeth angen ei wneud a dy fod di dal heb ei wneud o: "Dwi byth wedi clirio'r ardd 'na, mi oni wedi meddwl gwneud ddoe", yn hytrach nag i olygu dy fod ti erioed wedi clirio'r ardd yn dy fywyd.
Opiniyns?
I fi, mae gyda yn golygu efo. Lle mae Osian? Mae o gyda fi.
Mae deud 'dwi byth wedi' yn bendant yn awgrymu 'I still haven't'. Os ti heb wrando ar albym newydd Jarman, ac wedi bod yn meddwl neud hynny ers tro, 'dwi byth wedi gwrando ar albym Jarman'. Os ti heb wrando arni, a ddim wedi bwriadu un ffordd neu llall, 'dwi heb wrando...'. Dydi 'erioed' ddim yn angenrheidiol.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai