CAERNARFON
_____________________
Dyddiadau: 26+27 o Orffennaf 2011
Lleoliad: Canolfan Hyfforddi Cyfle, Galeri, Caernarfon
Tiwtor: Carl Morris, NativeHQ
Cost: £250+TAW
Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg fydd hwn
_____________________
Mae nifer o fusnesau bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu perthnasau ymglymol gyda pobl a marchnadoedd, cysylltu am gynnyrch, cynnig bargeinion arbennig, datblygu ffyddlondeb cwsmer ac i ymateb i gwestiynnau a thrafodaethau am eu brand.
- Sut mae modd i chi ddefnyddio teclynnau’r cyfryngau digidol er mwyn cyrraedd yr amcanion busnes yma?
Sut gall y cyfryngau digidol gael ei ddefnyddio er mwyn annog creadigrwydd, taclo problemau, galluogi cydweithredu, datblygu cynulleidfaoedd ac adrodd straeon?
Pa declynnau sy’n addas ar gyfer eich gwaith chi a beth mae’n nhw’n ei wneud?
Sut wyt ti’n mynd o gofrestru i gael cyfri ar declyn arlein i’w ddefnyddio’n effeithol ar brosiect go iawn?
Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio’r cwestiynnau yma a chael profiad ymarferol ar lwyfannau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.
_____________________
Pwy ddylai fynychu? -
Unigolion sy’n gweithio mewn marchnata, hyrwyddo neu datblygu busnesau bychan a mawrion yn ogystal a sefydliadau.
Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yw hwn. Cysylltwch â ni os fasai’n well gennych ddilyn y cwrs yn y Saesneg.
_____________________
CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH - http://www.cyfle.co.uk/training-and-skills/professional-development/short-courses/social-media?diablo.lang=cym
_____________________
I SICRHAU LLE AR GWRS NEU I OFYN CWESTIWN CYSYLLTWCH Â –
caernarfon@cyfle.co.uk / 01286 685242
_____________________