Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 22 Rhag 2009 11:16 am

Wel, wel... mae rhai o Doris Bach Plaid Cymru eisiau creu strategaeth grand??
Mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym bod rhaid cael diwylliant poblogaidd Cymraeg bywiog, normal...
Normaleiddio- nid fy hoff air Cymraeg, ond dyna fo:
Normaleiddio Caneuon/Pop Ysgafn Cymraeg:
Mae yna glwb nos ym mhrif ddinas Arfon sy'n boblogaidd iawn hefo nifer o Gymry Cymraeg. Ar y maes. Yr unig dro dwi wedi clywed pop/trac Cymraeg yno ar nos Wener neu Sadwrn ydi ar ol sdop tap hefo'r goleuadau ymlaen a phawb yn gadael... Paham nad ydi'r DJs sy'n cael eu cyflogi yn chwarae mwy o dracs Cymraeg poblogaidd yn ystod y nos? Pam? Y perchennog yn poeni mwy am bres, elw, ofn pechu rhai o'r cwsmeriaid ffyddlon??
Yr hyn sy'n hollol chwerthinllyd ydi'r ffaith fod y boi yma yn gynghorydd Plaid/Party (be ffwc ydi enw'r blaid bellach)?

Gwnewch y pethau bychain. Ac yna efallai y byddai strategaeth grand a chymhleth yn llai o fynydd...
Mae rhai Nashis yn iawn, ond mae rhai (ia, rhai!) Toris Bach Plaid Cymru yn mynd ar fy nerfau.
Hedd- ti am ddileu'r caswir??
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Mer 13 Ion 2010 12:30 pm

Galwaf ar Alun Ffred i wneud popeth o fewn ei allu i drio cael tracs fel y canlynol yn blastio gan y DJ ar nos Wener a Sadwrn yn y clwb dan sylw (sylwer nifer y golygon- dros 44mil!!-POBLOGAIDD):
http://www.youtube.com/watch?v=3OckWKBaMj4
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymrae

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 09 Meh 2011 3:42 pm

http://www.golwg360.com/newyddion/addys ... mdeithasol

Pwysig iawn, iawn...

Y jig-so iaith- mae diwylliant ysgafn poblogaidd ar lwyfannau beiddgar yn ddarnau mawr iawn o'r jig-so.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymrae

Postiogan Ben Alun » Maw 16 Awst 2011 8:34 pm

Mae'n rhaid i ni gael Papur Dyddiol yn GYMRAEG. Os wnaiff y Llywodraeth unrhywbeth, mae'n rhaid iddyn nhw ariannu'r papur yma.
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymrae

Postiogan ceribethlem » Mer 17 Awst 2011 8:44 am

Ben Alun a ddywedodd:Mae'n rhaid i ni gael Papur Dyddiol yn GYMRAEG. Os wnaiff y Llywodraeth unrhywbeth, mae'n rhaid iddyn nhw ariannu'r papur yma.

Nagyw papurau newydd ar eu ffordd mas?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymrae

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 26 Medi 2011 2:16 pm

Mi fydda i, ymhen y rhawg, yn siwr o brynu gliniadur. Ond dwi hefyd yn hoff iawn, iawn o yfed paned a mwynhau cynnwys papur newydd. Fydda i byth yn rhoi'r gorau i'r arferiad yma.
Dyfal donc:
https://www.cynulliadcymru.org/gethome/ ... pet_id=611
:D
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai