S4C - Haeddu Llwyddo??

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan Cymrodor » Gwe 10 Meh 2011 2:00 pm

Wedi arfer efo safon da o deledu Prydeinig ydyn ni, yn ogystal ein bod yn medru gwylio rhaglenni yn Saesneg o wledydd dramor, megis yr UDA, Awstralia, ayyb. Mae'n afresymol disgwyl i S4C medru cynhyrchu yn gyson y rhaglenni o'r safon rydym wedi arfer â gweld ac eisoes yn disgwyl gan nad ydy mor hawdd na syml o bell ffordd i'r sianel godi'r fath arian sydd angen i gwneud felly.

Credaf bod nifer o raglenni S4C o safon gymharol i'r rhai sydd yn llenwi'r dwsinau o sianeli sydd ar gael mewn rhai gwledydd â ieithoedd heblaw Saesneg. Er nad oes gynulleidfa mawr yn angenrheidiol, mae'r iaith, diwylliant ac economi yn unigryw iddynt fel bod rhaid cwmnïau lleol a rhyngwladol hysbysebu ar eu sianeli ac felly mae'n rhaid ei fod yn lot haws i'r gorsafoedd yno gael arian i wario ar gynhyrchu a comisiynu rhaglenni. Anodd iawn credaf bod perswadio unrhyw gwmni Prydeinig neu ryngwladol i hysbysebu ar S4C pan fydd bron pob gwyliwr yn debygol o weld yr hysbyseb ar sianel Saesneg beth bynnag. Heb y ffynhonnell yno o incwm, parhau i fod yn her bydd cynhyrchu rhaglenni o safon i ddenu a cadw gwylwyr yn gyson, yn enwedig pan fod pob un ohonyn nhw gyda dewis o

Nid yn unig ydy'r ffigyrau poblogaeth, economi a gwylwyr yn anodd i weithio â, ond ar ben hynny, mae'n rhaid bod costau cynhyrchu, gyda popeth arall ym Mhrydain, yn uwch na mewn nifer o wledydd eraill. Buasai'r un modd anodd i unrhyw sianel Gymraeg, dwi'n meddwl.
Cymrodor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sad 10 Hyd 2009 12:07 am

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan bed123 » Gwe 10 Meh 2011 2:46 pm

Sori ond rhaid i mi gytuno a Tom J, mae arlwy ar S4C ar y funud yn ofnadwy, heblaw am newyddion, ambell i rhaglen o Pobol Y Cwm, a rhyw 5 munud o Wedi 7 yn nos, fyddai ddim yn gwylio S4C dim mwy, gwylio fwy o Dvd, a gwrando ar radio cymru, does dim yn apelio, roeddwn wir edrych ymlaen at Porthpenwaig, ond bois bach, am siom, un o'r 'dramau' gwaethef i mi weld ers amser. A'r 'Goets fawr' yn edrych yn ddiflas hefyd, debyg i'r Porthmyn, rhaglen fwy am wythnos cyfan am mynd a defaid o un lle i lle arall, waw, dyna cyffrous. Mae wir agen newid mawr ar pwy bynnag sy'n rhoi syniadau a comisynu ar gyfer S4C, mwy nawr na erioed o blaen. Ond ydy o'n haeddu llwyddo? Ydy, ond rhaid e wella yn sydyn, a sydyn iawn, iawn hefyd.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan Rhys Aneurin » Sul 12 Meh 2011 9:11 pm

prypren a ddywedodd:Wrth gwrs, beirniadu cynhyrchiadau unigol, ond mae S4C fel sianel yn gneud job ffantastic a dylen ni ymfalchio yn hynny.


Nai byth ymfalchio mewn sianel sy'n trin cerddoriaeth gyfoes mor wael a mae S4C yn ei wneud ar y funud. A dim bai neb ydi hyn ond am y bobl sydd yn y top S4C sy'n meddwl taw Rhydian, Only Men Aloud a ffycin Opera ydi'r unig bethau cerddorol sy'n werth eu darlledu'n gyson.

Iyp, "job ffantastig" go iawn.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan prypren » Llun 13 Meh 2011 4:52 pm

Wel dwi'n hoffi Only Men Aloud a Rhydian ...a Bandit a'r nifer o rhaglenni cerddoriaeth eraill sydd ar S4C

Felly 'iyp'....job ffantastic S4C
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan Rhys Aneurin » Llun 13 Meh 2011 5:45 pm

Felly mae'n gwneud sens i ail-adrodd rhaglenni Rhydian a Only Men Aloud tro ar ôl tro (faint o weithiau nawr, 5, 6 gwaith efallai?), ond eto rhoi agos i ddim byd i Bandit?
Nai ddim derbyn unrhyw awgrym fod 6 pennod hanner awr a ella un neu ddau tymhorol o Bandit yn ddigon i adlewyrchu y sin gerddorol Gymraeg.
Lle y mae'r bandiau up-and-coming yn fod i anelu pan does dim allbwn ar y teledu i ledu y gair?

Tydi o ddim yn deg rhoi rejects Lloegr (a dyna ydyn nhw) sy'n digwydd bod yn Gymraeg ymlaen yn lle bandiau a chantorion sy'n canu A SGWENNU yn y Gymraeg, sy'n teithio dros y wlad yn chwarae'n fyw, a sy'n haeddu sylw.

Nai gytuno fod yna le i Rh. a OMA, manw amlwg yn boblogaidd (duw a wyr pam, ond nani) ond ni ddylsa nhw gael eu darlledu YN LLE bandiau a chantorion - a dyna dwi'n teimlo sy'n digwydd ar y funud. Mae S4C yn rhoi nhw mlaen ac yn mynd "dyna ni, dyna eich cerddoriaeth, Cymru" a ma hynnu'n hollol anerbynniol.


Mae gen S4C ddyletswydd i adlewyrchu sin gerddorol sy'n ddarn o ddiwylliant Cymraeg a sy'n digwydd trwy'r flwyddyn yng Nghymru, a manw'n gwneud job gachu. End of.


o, a dyma reswm arall pam mae comisiynwyr S4C yn hollol warthus:

http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/40814-tynnu-r-plwg-ar-raglen-derwen-gam?
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan Josgin » Llun 13 Meh 2011 7:34 pm

Mae pobl fel Cymdeithas yr iaith yn fodlon ymgyrchu ar ran S4C , a dyma ffordd cyfryngis cyfoethog (am y tro) Caerdydd o ddweud diolch.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan prypren » Mer 15 Meh 2011 4:49 pm

Wrth gwrs fod angen mwy o rhaglenni cerddoriaeth fel bandit Rhys Aneurin, ond fe hoffwn i weld mwy o rhaglenni am hanes, mwy o rhaglenni am grefftau cefn gwlad, mwy o rhaglenni am snwcer a mwy o rhaglenni am ffatrioedd fferins cymru. Mae pob un o'r rhain yn themau poblogaidd ac yn haeddu sylw, ond y broblem ydi mae OND UN SIANEL GYMRAEG SYDD GANDDON NI. Fedar y sianel ddim plesio pawb trwy'r amser. Mae hynny'n amlwg

Felly mae ymosod ar y sianel benbwygilydd yn hurt ac yn ddiflas. Mae pwyso am fwy o rhaglenni fel bandit yn syniad gret, ond a oes rhaid troi dadl bositif mewn i rant llawn dicter chwerw o hyd ac o hyd.
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan Rhys Aneurin » Mer 15 Meh 2011 5:36 pm

Snam byd chwerw yn fy nadl i, y gwir yw ddylsa yna fod mwy o gerddoriaeth gyfoes ar S4C, mae'n ran enfawr o ein diwylliant! Prypen, mae yna wahaniaeth rhwng bod yn chwerw a disgwyl gwell gan sianel sydd yn amlwg efo pobl yn y top sydd ddim yn gwrando ar eu gwylwyr!


Ac eniwe, dwi'n meddwl fod hawl gan bobl i fod yn chwerw dros y penderfyniad gwarthus i ollwng y rhaglen Derwen-gam!
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

Postiogan Meri » Iau 16 Meh 2011 5:45 pm

Cytuno bod angen mwy o gerddoriaeth gyfoes ar S4C ond nid o anghenraid Bandit. Rwyf wedi gweld ambell Bandit diflas iawn - llawn cerddoriaeth undonnog a pherfformwyr heb garisma. Mae angen rhaglen gyffrous a bywiog fydd yn denu gwylwyr ifanc newydd.
Mae'n siwr fod Bandit yn well na dim fodd bynnag.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai