Wedi arfer efo safon da o deledu Prydeinig ydyn ni, yn ogystal ein bod yn medru gwylio rhaglenni yn Saesneg o wledydd dramor, megis yr UDA, Awstralia, ayyb. Mae'n afresymol disgwyl i S4C medru cynhyrchu yn gyson y rhaglenni o'r safon rydym wedi arfer â gweld ac eisoes yn disgwyl gan nad ydy mor hawdd na syml o bell ffordd i'r sianel godi'r fath arian sydd angen i gwneud felly.
Credaf bod nifer o raglenni S4C o safon gymharol i'r rhai sydd yn llenwi'r dwsinau o sianeli sydd ar gael mewn rhai gwledydd â ieithoedd heblaw Saesneg. Er nad oes gynulleidfa mawr yn angenrheidiol, mae'r iaith, diwylliant ac economi yn unigryw iddynt fel bod rhaid cwmnïau lleol a rhyngwladol hysbysebu ar eu sianeli ac felly mae'n rhaid ei fod yn lot haws i'r gorsafoedd yno gael arian i wario ar gynhyrchu a comisiynu rhaglenni. Anodd iawn credaf bod perswadio unrhyw gwmni Prydeinig neu ryngwladol i hysbysebu ar S4C pan fydd bron pob gwyliwr yn debygol o weld yr hysbyseb ar sianel Saesneg beth bynnag. Heb y ffynhonnell yno o incwm, parhau i fod yn her bydd cynhyrchu rhaglenni o safon i ddenu a cadw gwylwyr yn gyson, yn enwedig pan fod pob un ohonyn nhw gyda dewis o
Nid yn unig ydy'r ffigyrau poblogaeth, economi a gwylwyr yn anodd i weithio â, ond ar ben hynny, mae'n rhaid bod costau cynhyrchu, gyda popeth arall ym Mhrydain, yn uwch na mewn nifer o wledydd eraill. Buasai'r un modd anodd i unrhyw sianel Gymraeg, dwi'n meddwl.