The Riddle of the Sands - Erskine Childers. Un o'r (os nad Y) stori gynta am spies yn y blynyddoedd yn arwain i fyny at y Rhyfel Byd Cyntaf. Darllenes i
The 39 Steps a symud ymlaen i hwn er nad oedd gen i syniad ei fod e wedi ei seilio ar yr un math o sefyllfa. Rhyw fath o fersiwn drymach o'r 39 steps. Ma'n ddiddorol achos bo fi wedi arfer shwt gymynt a^ pherthynas gwledydd Ewrop a'u gilydd
ar o^l yr Ail Ryfel Byd, ma'r ddau lyfr yma yn rhoi persbectif gwahanol am eu bod wedi ysgrifennu cyn yr holl densiwn stereotypical. Bues i hefyd yn siarad a^ ymchwilydd hanes o'r Almaen oedd wrthi'n astudio perthynas anglo-almaenig ar ddechrau'r ganrif yn y pyb y noson ar ol dechrau ei ddarlllen.
Sbwci.
Sai'n gwbod be ddarllenai nesa, falle ychydig o straeon byrion Edgar Allan Poe,
Murder on the Rue Morgue mae'n siwr (prynes i gasgliad llawn yn ddiweddar). Dwi hefyd am ailddarllen
Catch-22 a
Trysor y Mor Ladron.