Dwi'n disgwyl baban yn y dyfodol agos, ac dydy 'ngwraig i ddim yn rhannu 'nghyfenw i. Dan ni ddim eisiau i'n mab "berthyn" i'r un ohonym yn fwy nag i'r llall (trwy rannu enw), ac mae ein cyfenwau yn rhai eitha diflas beth bynnag. Felly dan ni'n bwriadu peidio rhoi cyfenw etifeddol iddo fo, ond i ddewis un newydd sbon. Mae lot o Gymry yn "gollwng" eu cyfenwau ac yn defnyddio eu enwau canol yn eu lle; dan ni jest yn bwriadu neud hyn o'r dechrau un, ac yn ei neud yn swyddogol ar y dystysgrif eni.
Dach chi wedi clywed o bobl arall yn neud yr un beth? Be dach chi'n meddwl o'r syniad? Mae lot of bobl o du allan i Gymru wedi ymated yn ansicr iawn iddo fo!