Fideo Gwlad Beirdd?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fideo Gwlad Beirdd?

Postiogan maesyfed » Mer 05 Hyd 2011 4:33 pm

Cyfres gwych! Oes video neu DVD o'r cyfres cyntaf ar gael?
maesyfed
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 29 Maw 2011 5:27 pm

Re: Fideo Gwlad Beirdd?

Postiogan Doctor Sanchez » Iau 06 Hyd 2011 12:41 pm

maesyfed a ddywedodd:Cyfres gwych! Oes video neu DVD o'r cyfres cyntaf ar gael?


Mae o dal ar clic am chydig ddyddiau eto.

Di S4C a Sain ddim di meddwl am y farchnad amlwg sydd na mewn pedlo DVD's o bethau sydd wedi bod ar y teli. :rolio: Os na ti'n ffan o Gefn Gwlad neu Cmon Midffild, beryg na cal dy siomi nei di. Pan ofynnis i rywun reit uchel yn S4C pam nad oedd S4C wedi meddwl am y ffordd amlwg yma o adio at eu coffrau, ges i'r ateb ma y (cartel) cwmniau cynhyrchu oedd yn dal yr hawliau darlledu ar gyfer y rhaglenni. Pan ofynnish i am sgwennu fewn i'r contract comisiynnu rhwng S4C a'r cwmni cynhyrchu, bod S4C yn cael y hawliau darlledu os nad oedd y cwmni cynhyrchu am wneud dim efo nhw, gesh i olwg :o yn ol.

Dwi'n gwbod fod S4C yn llanast, ond dwi hyd yn oed yn synnu weithiau faint o lanast ma nhw yn wneud o bethau. Ma'r cartel (a dyna ydi o) o gwmniau cynhyrchu ar gyfer S4C yn cael eu talu am wneud y rhaglen i ddechrau. Rwan ma naw deg y cant ohonyn nhw'n gachu pur, ond ma na ambell i berl i'w ffeindio yn ganol y cachu yna weithiau fyd. Os ydi'r rhaglen wedi ei gwneud a'i darlledu wedyn, faint fedrith o gostio i roi'r rhaglen neu'r gyfres i gyd ar DVD, efo chydig o ecstras (Fedrai'm dalld pam bod nhw ddim yn gneud hyn chwaith, pan ma pawb arall wedi bod yn rhoi ecstras ar eu DVD's ers ugain mlynedd) a'i rhoi hi allan yn y siopau. Unai dechrau siop S4C ar lein, neu eu gwerthu drwy siopau lleol (Llen Llyn, Nanog, Cob Records, Siop y Pethe a.y.y.b) Ddudodd y person S4C wrthai hefyd, bod yna broblemau efo pethau fel 'image rights' yr actorion a phethau cyffelyb. Pan nesh i ofyn pam na newn nhw ddim jest sgwennu contract yn deud fod yr actorion neu bwy bynnag yn gorfod 'wavio'r' hawliau yma os am gael tal, ges i'r un olwg :o . Fedraim coelio bod na'm un actor Cymraeg mor gyfoethog a medru gwrthod gwneud hyn i golli'r swydd. Dwi jest ddim yn dalld.

Swn i di bod wrth ym modd cal y rhaglenni canlynol ar DVD:

Y Pris (Fethish i o tro cynta. Mae o di cal canmol mawr gan bobl sydd wedi ei weld o)
Deryn
Joni Jones
Cyw Haul (Y dair gyfres, nid dim on y dair bennod na ar VHS o'r nawdegau)
Jabas a Jabas 2
Dyddiadur Dyn Dwad
Mil o Alwadau
CNEX!!!!!!
Ffarmwr Ffowc
Swig o Sdeddfod
Y ddau Frank
Torri Gwynt
Pelydr X
Toman o raglenni eraill.

Welish i mo'r Sopranos tro cynta rownd ar Channel 4, a ma raid fod o'r gyfres deledu gorau erioed i gael ei gwneud, achos mod i wedi cael y cyfla i brynnu'r DVD wedyn. Dwi'm hyd yn oed di dechrau ar 'The Wire' eto. Ond sa unrhyw un o hein di bod ar S4C, swn i byth di cael y cyfle o weld nhw eniwe, achos fysa nhw byth yn rhoi nhw ar DVD.

Ma Cyw Haul yn esiampl berffaith. Y rhaglen gorau erioed ar S4C o bell ffordd yn ym marn i (Yn well na Cmon Midffild), ond does na bron neb wedi ei gweld hi, achos fuodd hi mond ar S4C ddwywaith ar y mwya. Dwi'n lwcus mod gen i gopi ohonyn nhw ar dap, on ma na dal dwy neu dair pennod nesh i fethu recordio. Ma'r dair cyfres yna (18 pennod i gyd) oedd yn glyfar, doniol, dychannol a thorcalonnus wedi ei cholli am byth. Dwi di e-bostio S4C nifer o weithiau, a'r un ateb dwi'n gal bob tro ydi 'Does gan S4C ddim bwriad o'i rhoi ar y teledu yn y dyfodol agos'. Be am ffacin DVD ta? A'r atab ydi na. :ing:

Ma'r BBC, HBO a pawb arall efo bren wedi bod yn marchnata eu rhaglenni ers blynyddoedd yn y ffordd yma. Dwi'n gwbod nad ydi S4C yn league hein, ond swn i wedi gwario cannoedd o bunnau ar Ddvd's Cymreig swn i di cal y cyfle, fel bysa nifer o'n ffrindia fi a miloedd o bobl drwy Gymru a tu hwnt, a mi fysa S4C a'r (cartel) cwmnioedd cynhyrchu wedi gneud lot fwy o bres i godi safon truenus teledu Cymreig. :(
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Fideo Gwlad Beirdd?

Postiogan Lals » Gwe 07 Hyd 2011 11:43 am

Ro'n un siarad am hyn gyda rhywun neithiwr. Swn i'n licio cael DVD Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Gret ar gyfer fy merch.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Fideo Gwlad Beirdd?

Postiogan Rhys Aneurin » Gwe 07 Hyd 2011 12:15 pm

Snam esgus am y diffyg dychymig sydd gan rhai o'r cwmniau ma pan mae'n dod at DVDs.

Gyda C'mon Midffild er enghraifft - pam ddiawl wnaeth Sain greu DVDs ar wahan sy'n costio bron i bumtheg punt yr un? Sa rhywun gyda brwishionyn o ddychymig a sens busnes yn creu box set neis o'r holl gyfresi - sanw'n gwerthu llwyth dros Gymru, enwedig!

Dwnim os diffyg hyder yn rhaglenni eu hunain ydio ta beth, ond mae'n rhaid i'r cwmniau ddechrau gamu mewn i'r 21eg ganrif fel gweddill y byd os ydynt am i bobl gymryd eu rhaglenni a theledu Cymraeg o ddifrif.
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron