Gwahaniaeth arall yw'r ffordd o osod phases at ei gilydd. Mae Iwerddon yn tueddu i ddefnyddio'r rheng ol i dynnu mewn yr amddiffyn, ac yna'r ail reng yn gyrru drosodd i sicrhau'r bel. Mae hwn yn golygu eu bod yn ennill y bel y mwyafrif o'r amser, ond eu fod yn araf. Mae Cymru ar y llaw arall yn gyrru lan gyda'r ail reng (AWJ a Bradley neu Charteris) gyda'r rheng ol yn clirio. Mae hwn yn gallu arwain at pel llawer cyflymach sy'n golygu fod Jamie Roberts a/neu North (a/neu Jon Davies am hynny) yn gallu targedu unigolyn penodol yn yr amddiffyn yn hytrach na ailgylchu eu hunain.
Ffactor arall yw'r asgellwyr. Mae Bowe a North yn chwarae rol debyg iawn yn dod mewn i ganol cae er mwyn ecsploitio gwendidau yn yr amddiffyn. Mae Earls yn fwy traddodiadol ac yn aros mas yn agosach i'r asgell (ac yn gallu cael brain fart yn amddiffynol). Mae Shane Williams yn gallu dod mewn a chwaraer rol unigryw o dynnu mewn yr amddiffyn a rhyddhau chwareuwyr o'i gwmaps, neu defnyddio'i ddonie i faeddu ei wrthwynebydd.
Yn bersonol fi'n gobeithio bydd Halfpenny yn dechrau fel cefnwr. Fi'n ffan mawr ohono fe!