Arrrgh dw i'n nerfus a y gem yma. Roeddwn i'n hapus fy myd cyn y gem Iwerddon gan wybod fod Cymru yn dim gwell nag oedd sawl sylwebydd yn ei gydnabod, ond dw i'n teimlo eu bod nhw wedi mynd yn rhy bell i'r cyfeiriad arall a fod yna ormod o 'heip' wedi bod cyn y gem yn erbyn Ffrainc. Dw i'n dechrau deall sut brofiad yw bod yn gefnogwr Lloegr, ac yn sgil eu hymadawiad nhw o'r gystadleuaeth mae fel petai cyfryngau Llundain wedi penderfynu adrodd hanes Cymru yn yr un modd gor-hyderus a haerllug.
Digwydd bod fe gefais i freuddwyd am y gem yma neithiwr ac roedd Cymru ar y blaen ar ol 40 munud ond sgoriodd Maxime Medard gais cyn chwiban hanner amser, 14-10 a Hook wedi methu dwy gic gosb. :/