Gwaith Cartref

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwaith Cartref

Postiogan sian » Llun 24 Hyd 2011 10:03 pm

Macsen a ddywedodd:Hmmm... mae'r gyfres yn un dda ar y cyfan ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi ei fod wedi mynd i'r cyfeiriad cywir drwy ladd Emyr. Roedd y gyfres yn gwneud jobyn da o gadw’r diddordeb heb fod angen lladd unrhyw un, yn bortread ‘realistig’ o fywyd athrawon mewn Ysgol Gymraeg. Y mae bron fel petai’r awdur/cynhyrchwyr wedi cael panig bach a meddwl ‘beth os ydyn ni’n dechrau colli gwylwyr – well i un o’r cymeriadau fynd yn dw-lali a lladd un arall a chuddio ei gorff mewn tarpolin’. :|


Cytuno! Wnes i sôn am hyn ar Twitter - ro'n i'n cael y teimlad bod y gyfres wedi'i sgrifennu gan bwyllgor - rhai'n hapus i ganolbwyntio ar ddatblygiad perthynas rhwng y gwahanol gymeriadau a rhai'n dweud "Mae'n rhaid i ni gael digwyddiad cyffrous".

Dywedais y byddai'n well gen i heb y "melodramatics". Ond fe ddaeth yr awdur yn ôl ata i, chware teg, a dweud mai dim ond fe oedd yn ei sgrifennu. Roedd yn dweud "Amhosib plesio pawb. Heb y 'melodramatics' fydde sawl un yn achwyn bod hi'n araf ac yn ddiflas! Gobeithio bod 'na gydbwysedd."

Dydw i wir ddim yn deall pam mae angen cymaint o ddamweiniau ceir, llofruddiaethau, tanau, sgandalau mewn cyfresi fel hyn (heb sôn am Pobl y Cwm ond mae honno ar blaned arall). Dylai'r cymeriadau fod yn ddigon cryf i gario stori heb rhyw grutches felly. (Meddai hi sydd heb erioed sgrifennu un bennod heb sôn am gyfres :wps: )
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Mali » Llun 24 Hyd 2011 11:43 pm

sian a ddywedodd:
Dydw i wir ddim yn deall pam mae angen cymaint o ddamweiniau ceir, llofruddiaethau, tanau, sgandalau mewn cyfresi fel hyn (heb sôn am Pobl y Cwm ond mae honno ar blaned arall). Dylai'r cymeriadau fod yn ddigon cryf i gario stori heb rhyw grutches felly. (Meddai hi sydd heb erioed sgrifennu un bennod heb sôn am gyfres :wps: )


Cofio dweud yr union eiriau ,neu rhai tebyg , pan oeddwn i adref yng Nghymru eleni, ar ôl i mi wylio pennod ddigon treisgar o Coronation Street. Yr ateb gefais i oedd,
"Wel, mae'n digwydd go iawn yn tydi ? Fel 'na mae rhai pobl yn byw ! "
Ac yn dilyn profiad o wylio'r newyddion yn reolaidd, mae'n rhaid i mi gytuno efo fo.

'Roeddwn i'n hanner disgwyl i rwbeth ofnadwy ddigwydd cyn diwedd y bumed raglen, ond ron i'n meddwl fod Aneurin yn mynd i ladd 'i hun.
I got it wrong !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Macsen » Maw 25 Hyd 2011 5:06 pm

sian a ddywedodd:Dywedais y byddai'n well gen i heb y "melodramatics". Ond fe ddaeth yr awdur yn ôl ata i, chware teg, a dweud mai dim ond fe oedd yn ei sgrifennu. Roedd yn dweud "Amhosib plesio pawb. Heb y 'melodramatics' fydde sawl un yn achwyn bod hi'n araf ac yn ddiflas! Gobeithio bod 'na gydbwysedd."

Ydi mae'n amhosib plesio pawb, (ac roedd rhai cyfresi e.e. Porthpenwaig angen sawl mwrdwr i'w gwneud yn ddiddorol) ond dw i'n meddwl fod angen i'r awdur feddu ar fwy o ffydd yn ei allu ei hun i gynnal y diddordeb drwy, fel y dywedaist ti, ganolbwyntio ar y perthynas rhwng y cymeriadau (oedd yn ddigon i gario'r gyfres yn fy nhyb i). Os oedd angen ryw ddigwyddiad o bwys ynghanol y gyfres, beth am rywbeth fyddai'n gweddu i leoliad y ddrama, e.e. tan yn yr ysgol, bws ysgol yn cael damwain, ayyb? Roedd y golygfeydd pan gafodd Emyr ei ladd a pan ddaeth y cymeriadau eraill o hyd i'w gorff yn effeithiol iawn, ac mae'r ysgrifennu wedi bod yn wych ar y cyfan, ond y farwolaeth ei hun oedd braidd yn ystrydebol yn fy nhyb i! Dw i'n poeni braidd y bydd gweddill y gyfres i gyd yn canolbwynio ar alar y cymeriadau eraill wrth iddyn nhw ddod i delerau gyda'r farwolaeth, diwedd braidd yn ddiflas i gyfres doniol a hwyliog.

Serch hynny mae'n gyfres da a dw i ddim eisiau troi yn 'armchair critic'. :seiclops:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Josgin » Mer 26 Hyd 2011 6:06 am

Yrunig ddarn afreal oedd y wers fathemateg yn y bennod - ni fu 'Diagram Venn' ar unrhyw gwricwlwm am 25 mlynedd ! .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Cymru Fydd » Mer 26 Hyd 2011 11:21 am

Josgin a ddywedodd:Yrunig ddarn afreal oedd y wers fathemateg yn y bennod - ni fu 'Diagram Venn' ar unrhyw gwricwlwm am 25 mlynedd ! .


Anghywir Josgin - edryched ar fanyleb S1 TAG U/UG!
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Re: Gwaith Cartref

Postiogan ceribethlem » Mer 26 Hyd 2011 12:11 pm

Josgin a ddywedodd:Yrunig ddarn afreal oedd y wers fathemateg yn y bennod - ni fu 'Diagram Venn' ar unrhyw gwricwlwm am 25 mlynedd ! .

Dwi'n defnyddio diagramau Venn pan yn addysgu asidau ac alcaliau i Flwyddyn 9. Dyw e ddim yn rhan o'r cwricwlwm, ond mae'n dechneg addysgiadol defnyddiol iawn ar adegau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Gowpi » Mer 26 Hyd 2011 3:09 pm

Wy'n mwynhau'r gyfres yn fawr iawn - yn bersonol nes i ddim gweld marwolaeth Emyr yn dod o gwbwl, a ie, damwain odd hi sy'n drist... y penod wedi hwnnw (6), erbyn ei diwedd o'n i bron mewn dagrau. Mae'n well da fi mai marwolaeth fel hyn ddigwyddodd yn lle tan yn yr ysgol, damwain bws etc achos i fi gydymdeimlo yn fwy dwi'n credu, tase bws wedi crasho, fydden i ddim wedi poeni am farwolaeth rhai o blant anfoesgar rhaid i fi weud :ofn:
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Gwaith Cartref

Postiogan JVD33 » Mer 26 Hyd 2011 3:28 pm

Byddai'n braf clywed safon iaith gwell ymysg yr athrawon weithiau.
JVD33
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 16 Rhag 2009 12:38 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Josgin » Mer 26 Hyd 2011 7:03 pm

Diawch ia ! - heb ddysgu hwnnw erioed . Mi oedd y plant ychydig yn ifanc i fod yn gwneud safon uwch, cofier. Efallai fod yr ysgol gyda polisi 'Abl a thalentog' werth chweil ! Tydi Cymraeg yr athrawon ddim gwaeth na beth glywaf fi weithiau yn yr ystafell athrawon acw.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gwaith Cartref

Postiogan Siani Flewog » Maw 01 Tach 2011 6:18 pm

Dwi yn wir yn mwynhau'r gyfres ac yn ategu'r rheini sy'n ei chroesawu ar ol dioddef y blydi rwtsh plentynaidd Ddoe am Ddeg a'r gyfres mwya diflas dan haul sef Porthpenwaig. Er y digwyddiad hynod annisgwyl - damwain Emyr dwi'n siomedig ein bod wedi colli cymeriad gwych. Dwi'n meddwl fod Lee Haven yn actor gwych.
Siani Flewog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 7:57 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron