Helo Gyfeillion,
Dwi heb fod yn cyfrannu yn aml yn ddiweddar, er yn darllen yn gyson. Dwi'n teimlo fy mod wedi esgeuluso maes-e yn fawr dros y flwyddyn diwethaf. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb cymryd yr awenau, a gyda syniadau ar sut i ddatblygu maes-e, mi fyswn i'n barod iawn i drosglwyddo'r maes, fel gwnaeth Nic Dafis i mi rhai blynyddoedd yn ôl. Nid yw'r costau rhedeg yn uchel iawn, mae'r llety sydd gen i rhyw £6 y mis a'r parth rhyw £20 y flwyddyn, ac mae posibiliad gwerthu hysbysebion. Os oes diddordeb, anfonwch neges breifat,
Diolch,
Hedd