Gwyddelod wrth-Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

Postiogan Josgin » Iau 24 Tach 2011 10:04 pm

Nefi - dyma beth ydi dadansoddiad gwreiddiol o hanes Cymru ! . Mae'n wir mai diweddar yw unrhyw syniad o frawdgarwch Celatidd, serch hynny . Roedd Pabyddiaeth y Gwyddelod yn fur am ganrifoedd , a'r eironi yw fod llawer o genedlaetholwyr Cymru yn llawer agosach at Brotestaniaid y Gogledd o ran ffydd bersonol nac at y cenedlaetholwyr yno oedd yn Babyddion.
Dwi'n cofio Howard Hughes (Hetia) yn ysgrifennu sylwadau eithaf craff yn y cylchgrawn 'Sgrech' o dan y pennawd 'Gwyddeligaeth ' tua 1982.
Ei destun oedd eilun-addoliaeth (ar ran pobl fel fi, mae'n wir) y Cymry o grwpiau gweriniaethol fel y 'Wolfe Tones' a'r 'Dublin City Ramblers' . Mae'r oes 'di newid. Dwi'n cofio'r 'Wolfe Tones' yn cael eu croesawu'n gynnes i'r llwyfan gan neb llai na'r 'Arglwydd' Dafydd Ellis-Thomas.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gwyddelod wrth-Gymraeg

Postiogan ceribethlem » Gwe 25 Tach 2011 4:44 pm

Mae Ronan O'Gara, Brian O'Driscoll a Paul O'Connell yn Wyddelod, ac yn wancwyr. Fi'n dadansoddi o hynny fod pob un yn wanciwr.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron