ceribethlem a ddywedodd:Peth gwael yn fy marn i. Heb ser, bydd y torfeydd yn lleihau hyd yn oed mwy. Yn y diwedd bydd dim torf na chwareuwyr, dim ond dyled!
Dwi'n gweld hi ffordd arall Ceri. Dod a'r ser drwadd eu hunain de. Sbia ar dim y Sgarlets er engraifft. Ma North yn seren yn barod, fatha Jon Davies a fatha Priestland. Ma Scott Williams ar i ffordd, a ma na lwyth o ser yn aros i serennu yn y pac hefyd, fatha Morgan, Turnbull, Dom Day, Lou Reed, Ken Owens et al. Sa well gin i dalu i weld hein yn chwara ym Mharc y Sgarlets na hen chwaraewyr Seland Newydd dros eu tridega wedi dod yma am y pres cyn ymddeol. Os fedar y Sgarlets gadw mlaen i ran fwyaf o hein am deud y bedair blynadd nesaf, fyddan nhw efo'r gorau yn Ewrop yn ym marn i. Ma'r garfan bron i gyd o dan ddau ddeg pump. Ma siwr eith North ac un neu ddau arall i Ffrainc am ran o'u gyrfa, ond di dod a nhw drw'r academi heb gostio dim i'r sgarlets o ran transfer fees, ac fel arfar mae nhw ar gyflog isel i gymharu efo prynnu rywun o hemisffer y de i fewn. Felly drwy gael academi cryf fedri di fforddio i golli deud dau chwaraewr da ofnadwy y flwyddyn os oes gen ti production line y tu cefn i ti. Mae o reit debyg i be oedd Bradford a Wigan yn gneud yn y saithdega efo rygbi'r gynghrair.
Hefyd os di bois fel North isio chwara i Gymru, ma mynd i Ffrainc neu Loegr yn mynd i amharu ar eu cyfleon. Fel ma Peel wedi darganfod, a fel y gneith Hook, Phillips a Byrne o hyn ymlaen hefyd. Ella fysai'n well tynhau eto ar y rheolau a deud, os ydi rhywun fel Hook am fynd i chwarae i Ffrainc, na cheith o ddim chwara i Gymru tan doith o'n ol i'r Gynghrair Geltaidd, neu rhanbarth Cymreig. Mae angen cofio fod hein yn cal lot o bres i chwara i Gymru heb son am yr 'adulation' gan bobol Cymru, a spopnsorships a.y.y.b sy'n deillio o chwarae i'r tim cenedlaethol. A ma chwara i dy wlad yn meddwl lot mwy na pres.
Un cam mawr at ddod a torfeydd yn ol fysa cal gwarad o Dan Biggar fatha maswr o'r gweilch a Dan Parks o'r Gleision. Rhoi cyfle i Mathew Morgan yn y Spreys a chwara Henson neu trio dod a deg drwy'r academi yn y Gleision.
Not my fault. Monkey bastard hands!
WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?