Cyfanswm Cyflog

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfanswm Cyflog

Postiogan ceribethlem » Mer 21 Rhag 2011 5:00 pm

Mae "rhanbarthau" Cymru am osod cyfanswm cyflog (salary cap) ar y sgwadiau. Ymateb yw hwn i geisio cael URC i wneud rhywbeth am yr exodus o chwareuwyr safon uchaf i Ffrainc yn fy marn. Naill ai bydd URC yn gorfod cyfrannu'n fwy teg am wasanaeth y chwareuwyr yma, neu bydd rhaid newid y "polisi" o ddewis chwareuwyr o Gymru yn unig. Ar hyn o bryd mae'r chwareuwyr gorau yn chwarae cymaint (os nad mwy) o gemau i Gymru nac yr ydynt i'r rhanbarthau.
Sgil effaith hyn fydd y timoedd yn y gynghrair cenedlaethol, a fydd y Sgarlets a'r Gleision (mwy na'r ddau arall fi'n credu) yn diddymu'r timoedd lled-broffesiynol?
Pa fath o gynghrair fydd yn bodoli heb Llanelli a Chaerdydd (ac efallai heb Abertawe a Chasnewydd).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan Duw » Gwe 23 Rhag 2011 9:47 pm

Dwi ddim yn deall hwn o gwbl. £3.5m i'r garfan gyfan? Ydy hynny'n llawer neu ddim? Dim cliw 'da fi. A fydd hwn yn 'gorfodi' mwy o'n sêr i ddianc i wledydd eraill?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan Doctor Sanchez » Llun 26 Rhag 2011 3:01 pm

Duw a ddywedodd:Dwi ddim yn deall hwn o gwbl. £3.5m i'r garfan gyfan? Ydy hynny'n llawer neu ddim? Dim cliw 'da fi. A fydd hwn yn 'gorfodi' mwy o'n sêr i ddianc i wledydd eraill?


Fel dwi'n dalld hi, ma'r uwch gynghrair yn Lloegar efo Max Salari Cap o £ 4.5 miliwn y tim (Yn cynnwys credits ar gyfer datblygu'r ifanc) a ma Le Championnat efo Cap o 8 miliwn ewro.

Felly dan ni o dan anfantais o'i gymharu efo Werddon, Yr Alban a'r Eidal (Heb Cap o gwbl), a cynghreiriau Llogar a Ffrainc. Ond o weld faint o dalent ifanc Cymraeg sy'n dod drwy'r rhanbarthau dio'n poeni dim arna i. Mwy o gyfle i ddatblygu'r ifanc.

Ma gem Scarlets v Gweilch yn profi hynna wan wrth sbio arni...
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan Duw » Maw 27 Rhag 2011 12:54 am

Ydy allforio ein talentau mwyaf yn peth da felly? Llenwi timoedd estron gyda Chymry felly does dim cyfle 'da nhw i ddatblygu bois eu hunain? Llenwi timoedd ein hunain gyda bois second string ac ambell has-been rhyngwladol er mwyn hybu'r torfeydd? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan ceribethlem » Mer 28 Rhag 2011 2:52 pm

Doctor Sanchez a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Dwi ddim yn deall hwn o gwbl. £3.5m i'r garfan gyfan? Ydy hynny'n llawer neu ddim? Dim cliw 'da fi. A fydd hwn yn 'gorfodi' mwy o'n sêr i ddianc i wledydd eraill?


Fel dwi'n dalld hi, ma'r uwch gynghrair yn Lloegar efo Max Salari Cap o £ 4.5 miliwn y tim (Yn cynnwys credits ar gyfer datblygu'r ifanc) a ma Le Championnat efo Cap o 8 miliwn ewro.

Felly dan ni o dan anfantais o'i gymharu efo Werddon, Yr Alban a'r Eidal (Heb Cap o gwbl), a cynghreiriau Llogar a Ffrainc. Ond o weld faint o dalent ifanc Cymraeg sy'n dod drwy'r rhanbarthau dio'n poeni dim arna i. Mwy o gyfle i ddatblygu'r ifanc.

Ma gem Scarlets v Gweilch yn profi hynna wan wrth sbio arni...

Iwerddon yn wahanol (a'r Alban os gofiaf yn iawn) oherwydd fod cytundebau canolog yna.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan ceribethlem » Mer 28 Rhag 2011 2:53 pm

Duw a ddywedodd:Ydy allforio ein talentau mwyaf yn peth da felly? Llenwi timoedd estron gyda Chymry felly does dim cyfle 'da nhw i ddatblygu bois eu hunain? Llenwi timoedd ein hunain gyda bois second string ac ambell has-been rhyngwladol er mwyn hybu'r torfeydd? :rolio:

Peth gwael yn fy marn i. Heb ser, bydd y torfeydd yn lleihau hyd yn oed mwy. Yn y diwedd bydd dim torf na chwareuwyr, dim ond dyled!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan Doctor Sanchez » Iau 29 Rhag 2011 12:54 pm

ceribethlem a ddywedodd:Peth gwael yn fy marn i. Heb ser, bydd y torfeydd yn lleihau hyd yn oed mwy. Yn y diwedd bydd dim torf na chwareuwyr, dim ond dyled!


Dwi'n gweld hi ffordd arall Ceri. Dod a'r ser drwadd eu hunain de. Sbia ar dim y Sgarlets er engraifft. Ma North yn seren yn barod, fatha Jon Davies a fatha Priestland. Ma Scott Williams ar i ffordd, a ma na lwyth o ser yn aros i serennu yn y pac hefyd, fatha Morgan, Turnbull, Dom Day, Lou Reed, Ken Owens et al. Sa well gin i dalu i weld hein yn chwara ym Mharc y Sgarlets na hen chwaraewyr Seland Newydd dros eu tridega wedi dod yma am y pres cyn ymddeol. Os fedar y Sgarlets gadw mlaen i ran fwyaf o hein am deud y bedair blynadd nesaf, fyddan nhw efo'r gorau yn Ewrop yn ym marn i. Ma'r garfan bron i gyd o dan ddau ddeg pump. Ma siwr eith North ac un neu ddau arall i Ffrainc am ran o'u gyrfa, ond di dod a nhw drw'r academi heb gostio dim i'r sgarlets o ran transfer fees, ac fel arfar mae nhw ar gyflog isel i gymharu efo prynnu rywun o hemisffer y de i fewn. Felly drwy gael academi cryf fedri di fforddio i golli deud dau chwaraewr da ofnadwy y flwyddyn os oes gen ti production line y tu cefn i ti. Mae o reit debyg i be oedd Bradford a Wigan yn gneud yn y saithdega efo rygbi'r gynghrair.

Hefyd os di bois fel North isio chwara i Gymru, ma mynd i Ffrainc neu Loegr yn mynd i amharu ar eu cyfleon. Fel ma Peel wedi darganfod, a fel y gneith Hook, Phillips a Byrne o hyn ymlaen hefyd. Ella fysai'n well tynhau eto ar y rheolau a deud, os ydi rhywun fel Hook am fynd i chwarae i Ffrainc, na cheith o ddim chwara i Gymru tan doith o'n ol i'r Gynghrair Geltaidd, neu rhanbarth Cymreig. Mae angen cofio fod hein yn cal lot o bres i chwara i Gymru heb son am yr 'adulation' gan bobol Cymru, a spopnsorships a.y.y.b sy'n deillio o chwarae i'r tim cenedlaethol. A ma chwara i dy wlad yn meddwl lot mwy na pres.

Un cam mawr at ddod a torfeydd yn ol fysa cal gwarad o Dan Biggar fatha maswr o'r gweilch a Dan Parks o'r Gleision. Rhoi cyfle i Mathew Morgan yn y Spreys a chwara Henson neu trio dod a deg drwy'r academi yn y Gleision.
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan ceribethlem » Iau 29 Rhag 2011 4:20 pm

Ser Cymru oeddwn i'n son am, nid ser tramor. Bydd y Scarlets methu cystadlu'n ariannol gyda Lloegr a Ffrainc os byddan nhw am ddenu chwareuwyr fel North.

Mae dy bwynt am Biggar yn nonsens, crwtyn ifanc yw e o hyd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfanswm Cyflog

Postiogan Duw » Gwe 30 Rhag 2011 1:51 am

Roedd fy nhafod yn sownd i'm ceg wrth i mi bostio'r un ddiwethaf.

Bydd NEB yn mynd i wylio sêr yfory cyn eu bod nhw'n sêr. Mae nifer y cefnogwyr yn cywilyddus yn barod. Dwi ddim yn gweld y rhanbarthau yn parhau ymhen 5 blynedd os byddan nhw'n gwaedu talent i wledydd estron.

A sôn am Gymru yn gwrthod y rheiny sydd am ware dros y ffin neu yn Ffrainc - bolycs. Bydd cymaint ohonyn nhw, bydd dim dewis ganddyn nhw ond eu dewis. Gallaf ddychmygu'r URC yn rhoi tim 3ydd dewis allan yn y pencampwriaeth a chwpan y byd a gemau'r hydref yn erbyn cewri'r De. Bydd y stands yn wag, bydd neb am eu gwylio, bydd noddwyr yn cadw draw a gwnaiff y gem rhyngwladol droi ieuenctid Cymru at chwaraeon eraill. Dyn dewr neu ffôl bydd yn gwrthod y chwaraewyr hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron