Shwd i chi? Rwyf newydd ymuno 'da chi ac mae eisiau help arna i os gwelwch yn dda. Beth ydy'r ffurf ramadegol safonol am y ffurf dafodieithol 'smo' megis 'smo i'n mynd'?
Diolch ymlaen llaw,
Deric John.
Cymedrolwr: Gwen
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Rwi'n credu fod "'d oes dim ohonof" yn iawn. Cysidro "dwnim", neu "nid wn i ddim": yno, mae'r "dd" wedi diflannu ar lafar.
"Sai": gall hyn ddod o "''d oes ohonof i". Yn hytrach na "Nid wn i ddim" => "Dwn i'm" a glywir yn y Gogledd, yn y De clywir yn bur aml "Nid oes ohonof i yn gwybod" => "Sai'n gwbod"
Agus nuair a chunnaic mi "smo" - A phan welais i "smo" - ro'n i'n credu mai am Sabhal Mòr Ostaig oedd yr edefyn hwn...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 50 gwestai