Cael gwared a treiglo

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cael gwared a treiglo

Postiogan tommybach » Sad 05 Mai 2012 1:01 am

Oes pwynt i ni dreiglo wrth i ni ysgrifennu'r iaith? Siŵr o fod mae'n gwneud pethau'n anodd iawn ar gyfer rhaglenni fel Google Translate ac mae treiglo yn uffernol o anodd i ddysgu. Treiglo = helpu iaith i lifo ar lafar (ffêr enyff) ond mae treiglo yn gwneud yr iaith yn anodd iawn i ddysgu!

Llai o dreiglo = mwy o ddysgwyr llwyddiannus!
Rhithffurf defnyddiwr
tommybach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Iau 01 Hyd 2009 11:32 pm

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan dghughes82 » Sad 05 Mai 2012 1:33 am

Wel, dyw treigladau ddim yn mynd i ddiflannu o'r iaith ysgrifenedig, felly rhaid i ddysgwyr dysgu amdanynt!
I fod yn onest, pan o'n i'n dechrau dysgu'r iaith, roedden nhw'n eithaf anodd, ond nid y peth mwyaf anodd yn yr iaith o gwbl.

Y ffaith yw, mae'n anodd i ddysgu iaith newydd, pa bynnag yw hi - dyn ni'm yn gallu newid hynny!
Siarad Cymraeg... all the way!!
Rhithffurf defnyddiwr
dghughes82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 27 Hyd 2009 2:14 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan tommybach » Sad 05 Mai 2012 1:50 am

Digon teg, ond dwi jyst eisiau siarad Cymraeg, bod yn Cymro da a mwynhau'r diwylliant Cymraeg. Ond dwi methu blydi treiglo ac mae safon fy iaith yn crap :ing: :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
tommybach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Iau 01 Hyd 2009 11:32 pm

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan dghughes82 » Sad 05 Mai 2012 1:31 pm

Wel, swn i'n dweud, paid â phoeni gormod am dreiglo - does neb yn defnyddio pob un ohonynt. Na fydd neb yn dweud dim byd os wyt ti'n camdreiglo! Mater gwahanol yw Cymraeg ysgrifenedig, ond beth am ddefnyddio Cysill Ar-Lein (http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/) i wirio nhw? :D
Siarad Cymraeg... all the way!!
Rhithffurf defnyddiwr
dghughes82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 27 Hyd 2009 2:14 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 13 Mai 2012 8:44 am

Rwi'n gyfarwydd a Gaeleg yr Alban ac mae 'na dreiglo yno hefyd, ar lafar ac wrth sillafu. Ond nid yr holl dreiglo sy'n cael ei sgwennu, e.e. mae treiglad trwynol gan rai tafodieithoedd: "yn nhy fy rhieni" => "ann an taigh mo phàrantan", ond ar lafar yn bur aml clywir "ann an nhaigh mo phàrantan". Ac "er gwaethaf" => "a dh'aindeoin": ni chlywir fyth y "d" ar ol yr "n" ("y ghannion", mwy neu lai).

Os 'ti'n edrych ar unrhyw iaith Geltaidd Ynysig (cànan Ceilteach Eileanach, Insular Celtic language) gweli di dreiglo - Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg - mae treiglo gan bob un. Digwydd hyn ym mhob iaith i raddau (e.e. Saesneg: knife - knives): y peth braidd yn eithriadol am yr ieithoedd Celtaidd Ynysig ydy fod y treiglo'n digwydd ar y blaen yn ogystal. Ffaith - rhaid ymdopi.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan ap Dafydd » Sul 13 Mai 2012 9:30 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Rwi'n gyfarwydd a Gaeleg yr Alban ac mae 'na dreiglo yno hefyd, ar lafar ac wrth sillafu. Ond nid yr holl dreiglo sy'n cael ei sgwennu, e.e. mae treiglad trwynol gan rai tafodieithoedd: "yn nhy fy rhieni" => "ann an taigh mo phàrantan", ond ar lafar yn bur aml clywir "ann an nhaigh mo phàrantan". Ac "er gwaethaf" => "a dh'aindeoin": ni chlywir fyth y "d" ar ol yr "n" ("y ghannion", mwy neu lai).

Os 'ti'n edrych ar unrhyw iaith Geltaidd Ynysig (cànan Ceilteach Eileanach, Insular Celtic language) gweli di dreiglo - Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg - mae treiglo gan bob un. Digwydd hyn ym mhob iaith i raddau (e.e. Saesneg: knife - knives): y peth braidd yn eithriadol am yr ieithoedd Celtaidd Ynysig ydy fod y treiglo'n digwydd ar y blaen yn ogystal. Ffaith - rhaid ymdopi.


Cytuno'n gyfangwbl

Mae'r Gymraeg yn treiglo.

Dyma fe.

Ffred
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan Gorwythdroed » Sul 20 Ion 2013 1:17 am

tommybach a ddywedodd:(ffêr enyff)


Oes rhaid iti lygru'r Gymraeg fel hyn? Ond i ateb dy gwestiwn: ni fuasai'n gwneud gwahaniaeth oes oeddit yn gwneud ymdrech ymwybodol i beidio a threiglo oherwydd, yn amlwg, ni elli di ei gnweud fel y mae!
Gorwythdroed
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Sul 20 Ion 2013 12:29 am

Re: Cael gwared a treiglo

Postiogan Gwen » Gwe 01 Chw 2013 3:55 pm

Gorwythdroed a ddywedodd:
tommybach a ddywedodd:(ffêr enyff)


Oes rhaid iti lygru'r Gymraeg fel hyn? Ond i ateb dy gwestiwn: ni fuasai'n gwneud gwahaniaeth oes oeddit yn gwneud ymdrech ymwybodol i beidio a threiglo oherwydd, yn amlwg, ni elli di ei gnweud fel y mae!


Fedri dithau ddim chwaith.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai