Helo pawb,
Y flwyddyn 'ma rwyf wedi gadael pethau'n hwyr i ffeindio au pair. Byddwn yn falch pe baech chi'n gallu ymledu'r gair os ydych yn nabod rhywun a diddordeb.
Blwyddyn Bant / Dysgu Ffrangeg a gweithio fel au pair yng Ngwlad Belg
Diolch ymlaen llaw.
Dafydd
------------------------------- -------------------------------
Blwyddyn Bant / Dysgu Ffrangeg a gweithio fel au pair yng Ngwlad Belg
Dysgu Ffrangeg/Cyfle ar gyfer au pair Gymraeg yng Ngwlad Belg
Rydym yn deulu ifanc gyda mab pump oed (a babi sy ar y ffordd!). Rydym yn byw yn Brwsel, Gwlad Belg, ac yn chwilio am 'au pair' Gymraeg i ddod draw o ddiwedd fis Medi 2012 i Mehefin/Gorffenaf 2013 i ofalu am ein mab pump oed a'r babi bach. Os oes diddordeb ganddoch, ac am ragor o fanylion: dafyddabiago@gmail.com