Erthygl arbennig o dda yw hon gan Paul Foot http://www.guardian.co.uk/comment/story/0,3604,1083007,00.html
Mae'n dweud yn blwmp ac yn blaen pam mae angen undebau. Nid ffan o'r Trot di-gywillydd ydw i wrth gwrs - mae'n gas 'da fi'r SWP (Socialist Workers Party), ond megis Cenedlaetholwyr maen nhw'n llygad eu lle'n achlysurol.
Rheolwyr sydd heb synnwyr cyffredin.
Rheolwyr sy'n fwlis.
Rheolwyr sy'n dilyn syniadaeth eithafol yr adain de pob tro mae siwns 'da nhw.
Rheolwyr sy'n mwynhau gwthio pobl o gwmpas.
Gallaf ddwued o'm profiad personol y Post Brenhinol, taw dweud y gwir yw Foot.
Be' yw dy brofiad di o Undebau/Rheolwyr?