Plaid Cymru a'r Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan Macsen » Maw 23 Hyd 2012 9:36 pm

Ydi Plaid Cymru yn ceisio ymbellhau ei hun oddi wrth y Gymraeg?

Wele er enghraifft y sylwadau yma gan Adam Price:

"Welsh nationalism's fault has been its failure to communicate directly with people in all parts of Wales. A party that wanted to conserve (language and culture) and modernise (economy and institutions) at the same time was always going to run the risk of sending mixed messages. Seen through a largely external media's lens, Plaid, with its monolingual moniker, was branded a Welsh language party in the mental maps of the English-speaking majority.


Ac ymdrechion y blaid i led-awgrymu nad yw Leanne Wood yn siarad Cymraeg (er ei fod yn berffaith amlwg ei bod hi):

“Wood is not only the first woman to lead the party, she is the first, like 80% of Welsh people, who wasn't brought up a Welsh language speaker.” – Adam Price

“I rarely use the Welsh language myself in my day-to-day work, so in some senses you could argue that they already have [a non Welsh-speaking leader].” – Leanne Wood


Wedyn mae'r busnes 'Party of Wales' yma yn y datganiadau i'r wasg sydd wedi cael llawer o sylw ar y we yn barod.

Ydi Plaid Cymru yn ymbellhau oddi wrth yr iaith? Ydi hyn yn werth chweil o safbwynt y cefnogwyr os yw'n mynd i hybu eu gobeithion etholiadol nhw?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Hyd 2012 9:42 pm

Heb son am fater y cofnod!

Pwyntiau gwych gan Huw Prys Jones ar wefan Golwg360 (roedd maes-e yma ymhell cyn Golwg360 cofiwch!!)

Ond yn fwy difrifol, mae gen i ofn fod yr ymgais ddiweddaraf yn arwydd pellach o rhyw fath o ansicrwydd o fewn y Blaid ynghylch ei hunaniaeth, a’i hofnau parhaus ynghylch cael delwedd ‘rhy Gymraeg’.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan Macsen » Maw 23 Hyd 2012 9:47 pm

Chwarae teg roedd hwnna'n ddarn barn da iawn gan Huw Prys.

Yn bersonol dw i'n meddwl bod yr iaith yn bwysicach nag amcanion eraill Plaid Cymru.

Mae'r amcanion eraill yn addo pethau da tra bod yr iaith Gymraeg yn beth da sydd gennym ni nawr.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Hyd 2012 9:56 pm

mmm Dwi'n anghytuno Macsen! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan sian » Maw 23 Hyd 2012 10:10 pm

Wel, er mwyn gwneud y pethau mae arni eisiau eu gwneud, mae'n rhaid i blaid wleidyddol gael grym.
Ac er mwyn ennill grym, mae'n rhaid cael pleidleisiau. (Fan hyn mae anffodus yn dweud "Thanc iw Capten Obfiys")
Ac os yw plaid yn meddwl bod canran sylweddol o'r boblogaeth o dan gamargraff am y blaid honno sy'n eu hatal rhag pleidleisio drosti, mae'n naturiol iddi geisio gwneud rhywbeth i gywiro'r camargraff.
Mae'n naturiol bod Plaid Cymru yn awyddus i gyfleu'r argraff ei bod yn blaid sy'n berthnasol i holl drigolion Cymru, nid dim ond carfan fach o'r bobl.
Dw i ddim yn gwybod ai dyma oedd yn gyfrifol am y bleidlais ar y Cofnod. Falle ddim.
Ond dwi'n sicr yn meddwl bod defnyddio enw Saesneg yn gam gwag.
1) Mae'n gwneud i'r Blaid swnio'n despret
2) Dyw "The Party of Wales" ddim yn gwneud synnwyr
3) Mae Ddy-Parti-o-Wêls yn siwr o wneud y Blaid yn gyff gwawd
4) Mae'n rhoi'r argraff ei bod yn barod i aberthu ei hegwyddorion
5) Dydi pobl ddi-Gymraeg ddim yn dwp - mae Plaid Cymru yn frand cryf

Sy'n gadael y cwestiwn sut mae denu pleidleiswyr ac aelodau o bob rhan o'r gymdeithas.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan Cymrodor » Maw 23 Hyd 2012 11:31 pm

Dydi pobl ddi-Gymraeg ddim yn dwp - mae Plaid Cymru yn frand cryf

Dydi pobl sy'n gwneud penderfyniadau yn y Blaid ddim yn dwp, chwaith. Dwi'n cytuno fod Plaid Cymru erbyn hyn yn frand cryf hyd yn oed tu hwnt i Glawdd Offa, ond efallai, a dwi'n cymryd o'r newid for ymchwil y blaid wedi dangos hyn, bod pobl yn cysylltu'r enw a'r iaith Gymraeg ac yn gweld y blaid fel un i'r Cymry Cymraeg. Hoffwn wybod ar ba sail mae'r newid wedi ei wneud, h.y. a oes ffigyrau/data i'w gefnogi?
Cymrodor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sad 10 Hyd 2009 12:07 am

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 01 Tach 2012 12:58 pm

O safbwynt hollol negyddol, mae nhw'n risgio anfon neges nad ydy'r iaith Gymraeg yn "ddichonadwy" yn wleidyddol, yn ogystal â gwahanu pobl trwy gefnogi'r syniad nad ydy hi'n perthyn i'r Gymry i gyd (ystyriwch y sefyllfa ieithyddol yn yr Alban os dach chi eisiau gweld enghraifft o le mae hynny'n eich arwain).

I ddeud y gwir, tasen nhw rili eisiau cael mwy o gefnogaeth, basen nhw'n newid eu polisi i fod yn agosach i'r canol gwleidyddol (cf. SNP). Fel Canadiad sy'n cartrefu yn y DU, mae gen i hawl i bleidleisio, ond dwi'n ffeindio bod PC yn rhy bell i'r chwith, a dwi'n sicr bod 'na pobl arall fel fi.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Plaid Cymru a'r Gymraeg

Postiogan dil » Iau 01 Tach 2012 10:43 pm

man edrych yn debyg fod PC yn trio newid i delwedd ynglyn ar Gymraeg a pethe erill fyd.
os mae camau or fath yn helpu arwain tuag at y gol o anibyniaeth dwin hapus gyda hynu.
dwim yn gweld on fygythiad ir iaith Gymraeg os yn effeithiol. dwim yn gwbod y ffeithiau ynglyn a
os fod hynu yn gam da i ennill Cymru di Gymraeg yn gefnogol. ond dwi yn clywed lot o syniade call
ac egwyddorol yn dod o geg L Wood ac heb gael dim awgrym fod hi ddim yn gefnogol ir iaith ac yn ei dyfodol.
mae hi isio llwyddo ac yn trio cymrud y came iawn i neud hynu.
er hyn, yn bersonl dwin dewis gwneud pob dim yn Gymraeg fy hun, ac ddim yn eulod o unrhyw blaid wleidyddol.
mae pobl Cymru yn barod am newid ond anghena arweiniad syn gwneud synnwyr i bawb i wneud hynu dim ideal alle
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron