Wrth gerdded o amgylch Abertawe heddiw gwelais i ryw 50 tŷ gyda baneri Prydeinig, ac o leuaf un faner ar BOB siop. Man a man i ni gyfaddef bo'ni wedi cwpla fel cenedl. Roni'n teimlo fel rhwygo nhw bant. Mae'n amlwg bod neb braidd yn ninasoedd mawr Cymru yn malio dim am ein diwylliant NI nag am yr Holocost Prydeinig a ddigwyddodd 1500 o flynyddoedd yn ôl. Roni'n teimlo fel gweiddi arnyn nhw bod dim siwd beth â phrydeindod; dyw hynny heb fodoli ers ymadawiad y Rhufeiniad o Brydain. Ond ffyliaid anaddysgiedig yw'r rhan fywaf ohonynt sy'n hollol anwybyddus o'u hanes.
Beth sy'n fy ngwylltio yw'r ffaith na welech chi fyth llu o ddreigiau coch yn y ddinas ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Dim ond cwyno ydw i. Dwi'm yn disgwyl i ddim byd newid.