gan sian » Sul 20 Ion 2013 2:18 pm
Croeso, Gorwythdroed
Roedd maes-e yn arfer bod yn fywiog iawn, gyda phawb - yn cynnwys prifeirdd, aelodau o fandiau, academyddion, gwleidyddion, gwyddonwyr, ymgyrchwyr, cyfieithwyr, pobl oedd newydd ddechrau dysgu Cymraeg, myfyrwyr a phlant ysgol - yn trafod ymhlith ei gilydd ar bob math o bynciau - difrifol a difyr - mewn pob math o Gymraeg.
Mae wedi tawelu'n ddifrifol ers rhai blynyddoedd ac mae chwith mawr ar ei ôl.
Mae mwy o drafod Cymraeg ar twitter dyddiau 'ma - sydd â manteision ac anfanteision.
Beth sy'n bod ar "seiat"? Gwir mai benthyciad o'r Saesneg "society" oedd y gair yn wreiddiol (dwi'n meddwl) ond mae'n perthyn yn hapus i'r Gymraeg ers y ddeunawfed ganrif! Mae'n golygu cyfarfod crefyddol i drafod ac, wedyn, unrhyw fath o sgwrs neu drafodaeth. Yma, mae'n golygu rhyw fath o is-adran i drafod pwnc neu fater penodol.
Mae'r Gymraeg yn fyw!
Gobeithio y byddi di'n hapus yma ac y cei di gwmni i seiadu gyda nhw!