gan rhiannon548 » Gwe 18 Ion 2013 10:22 pm
Mae nifer o sylw wedi cael ei rhoi yn y was yn ddiweddar yn son am ganlyniadau hynod siomedig cyfrifiad 2011. Mae'r niferoedd o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn enwedig yn y llefydd a oedd yn cael eu hystyried fel cadarnleoedd yr iaith ddeng mlynedd yn ol. Bu raglen y Byd ar Bedwar yn dangos teulu a oedd ar un pryd yn uniaith Gymraeg lle roedd y plant bellach wedi anghofio'r iaith (er eu bont wedi derbyn addysg Gymraeg.) Oes modd adfywio'r iaith yn ein cymunedau? A sut mae mynd ati i wneud hynny?