gan Hen Rech Flin » Sul 06 Ion 2013 4:30 am
Os mae'r hen sgerbwd yna am Rygbi v Pêl droed sydd gen ti dan sylw, 'dwi ddim yn synnu na fu yn bwnc llosg ar y Maes, byddwn yn tybio y byddai'r rhan fwyaf o aelodau'r Maes am gefnogi Cymry yn y ddwy gamp.
Yn bersonol mae'n well gennyf rygbi, ond am resymau ych a fi braidd. Mi fûm yn ddisgybl mewn ysgol a sefydlwyd gyntaf yn y 1600'au a drodd o fod yn ysgol tlodion i ysgol fonedd i ysgol ramadeg ac erbyn i mi gyrraedd yno yn ysgol gyfun. Fel ysgol gyfun yr oedd yn ceisio cadw rhywfaint o naws ei rhagflaenwyr trwy gyflwyno Rygbi fel ei brif gêm academaidd yn hytrach na ffŵtbol y werin datws. O herwydd hanes yr ysgol y mae gennyf gwell ddealltwriaeth o rygbi a gan hynny yn cael mwy o fwynhad o em o rygbi. Ond mae'r hyn a greodd fy ffafriaeth tuag at gampau'r bêl hirgron yn drewi, ac yr wyf yn mawr obeithio nad yw'r fath agweddau yn bodoli yn ein hysgolion bellach.