Mae'r jociau wedi dechrau'n barod, ond dw i'n anghyffyrddus iawn hefo'r syniad o ddilorni hen ddynes hefo dementia.
Er gwaethaf effaith ei pholisiau, a barn llawer o bobol amdani, dw i'm yn feddwl 'roedd hi eisiau dinistrio bywydau.
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Hen Rech Flin a ddywedodd:Does neb yn dilorni hen ddynes efo dementia (na chwaith yn clodfori hen ddynes efo dementia). Mae'r ffaith bod Mrs Thatcher wedi cael dementia yn ei henaint yn gwbl amherthnasol i'r coffa am dani.
Chickenfoot a ddywedodd:Digon teg, Rhech, digon teg. Consider me chided. Jest gweld rhan o'r ymateb braidd yn hallt, gan fod y dynes rhoddod y polisiau dadleuol yn eu lle wedi marw ers blynyddoedd. Falla fy mod i'n feddalu yn fy henaint, ond roedd lot o'r jociau amdani'n son am ei dementia/stroc, a wnaeth hynna fy nharo i fel rywbeth anghywir i wneud.
Ar y llaw arall, fi soniodd am ei pholisiau yn ail linell y post a dyliwn i ddim wedi cymysgu'r ddau bwynt.

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 46 gwestai