gan Josgin » Sul 14 Ebr 2013 2:45 pm
Nid yw beirniadu rhywun yn syth ar ol iddynt farw yn gywerth a'i gwatwar. Ni fuaswn yn ei beirniadu am ryfel y Malfinas - cofier mai'r Archentwyr oedd y cyntaf i ddefnyddio arfau, ac felly ymateb y gwnaeth i sefyllfa. Fy meirniadaeth i fuasai ei pharodrwydd ynfyd i gael gwared o'r diwydiant cynhyrchu ym Mhrydain, sydd yn cael effaith andwyol ar ein gallu i werthu nwyddau dramor heddiw. Yr oedd y polisi ar werthu tai cyngor yn wallus, gan na chaniatawyd adeiladu tai newydd. Un peth hurt yw mai ei gwir etifedd oedd Tony Blair - gwr sydd a llawer mwy o waed ar ei ddwylo, ac oedd llawer llai egwyddorol.
Yr oedd Mrs Thatcher yn ddynes anrhydeddus a charedig tu hwnt yn bersonol, ond dwry ei pholisiau fe lwyddodd i greu naws anonest a hunanol oedd yn hollol ddirgroes i werthoedd anghydffurfiol ei thad.