Sensro John Peel ar Fideo 9

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan nicdafis » Gwe 26 Ebr 2013 12:05 pm

Wedi trydar am hyn a chael tymblwîd fel ymateb. Yr un peth ar Facebook. Os ga' i ddim byd fan hyn, bydd rhaid i fi ffeindio fy nghyfrinair am Morfablog.

Wnes i wylio'r ail-ddarlleniad o Fideo 9 ar Clic, fan hyn: http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=21299040 a joio'r cyfweliad â John Peel mewn tacsi yn Llundain. Eisiau rhannu hyn gyda mwy o bobl, ond gwybod bydd y clip yn diflannu o Clic cyn bo hir, es i draw i YouTube, rhag ofn...

A dyma fe: John Peel's Views - Welsh language music and Margaret Thatcher.

Ond yn y fersiwn darlledwyd, neu o leia ar y fersiwn mae S4C yn dangos ar Clic, doedd dim sôn am Thatcher o gwbl. Aeth y rhaglen ma's noson cyn ei hangladd, felly dw i ddim yn synnu bod rhywun wedi cael pwl o nerfau, ond ai fel hyn oedd y ffordd orau i ddelio â'r "broblem"?

Dechrau amau naill ai mod i wedi camddeall rhywbeth amlwg iawn ac mae pawb yn rhy gwrtais i ddweud wrtha i, neu bod neb arall yn gweld hyn yn broblem, a fi yw'r comiwnydd ola etc etc etc

Does neb arall yn meddwl bod hyn yn rhywbeth sy'n werth ei drafod?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan dafydd » Gwe 26 Ebr 2013 1:07 pm

Yn y fersiwn ddarlledwyd ar y sianel, roedd y sylwadau am Thatcher i mewn. Mae'n benderfyniad rhyfedd iawn i sensro un sylw cymhedrol iawn a wnaed 25 mlynedd yn ôl gan ddyn sydd wedi marw am fenyw sydd wedi marw.

Ond dwi'n disgwyl ddim gwell gan S4C - mae ganddyn nhw 'form' am dorri pethau bach anffodus allan o'r cynnwys ar Clic. O gamgymeriadau embarasing ar raglenni i sgetsys hiliol. Unwaith y mae gennych chi y gallu technegol i ymyrryd mewn cofnod o ddarllediad mae'n demtasiwn mawr i wneud hynny, yn enwedig os nad yw'n ymddangos fod ganddoch unrhyw fath o ganllawiau golygyddol ar hyn, fel S4C.

Fe alla'i feddwl am tri rheswm derbyniol i olygu rhaglen am Clic:

1. Torri allan rhyw nam dechnegol mawr yn y rhaglen, lle roedd toriad estynedig yn y llun
2. Dileu clip ffilm/fideo lle nad oes hawlfraint gan S4C i'w ddarlledu ar y we (fel yn achos rhaglen gynta Fideo 9 gyda fideo'r Sugarcubes)
3. Blipio unrhyw regi annisgwyl mewn rhaglenni byw cyn 9pm (sydd ddim yn digwydd yn aml).

Ew, mae'n braf gallu trafod mewn > 140 llythyren.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan nicdafis » Gwe 26 Ebr 2013 1:21 pm

Diolch Dafydd, o'n i wedi dechrau teimlo fel Martin Llew yn sôn am gynnal steddfod yn Lerpwl.

Gan fod y fersiwn heb y toriad ar gael ar YouTube, does dim amheuaeth taw nid un o'r rhesymau roddaist ti oedd tu ôl i'r penderfyniad.

Ew, mae'n braf gallu trafod mewn > 140 llythyren.

Ar y llaw arall, oedd rhaid i fi ffeindio ffordd o stopio GIFiaid wedi'u hanimeddio ymddangos ar Chrome. Ond ie, neis iawn.

[Gallu cywiro teipos yn neis hefyd.]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan khmer hun » Gwe 26 Ebr 2013 1:28 pm

Diddorol, Nic. Wyddwn i ddim am hyn. Diolch am dynnu sylw at y peth.

[Crafu 'mhen am oesoedd yn trio cofio beth oedd fy enw ar hwn! Adferwn y Maes! on. Cofia, Dafydd, y galli di ddefnyddio geiriau go iawn fel 'mwy na' ar hwn yn hytrach na symbolau fel '>']
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan khmer hun » Gwe 26 Ebr 2013 1:28 pm

Diddorol, Nic. Wyddwn i ddim am hyn. Diolch am dynnu sylw at y peth.

[Crafu 'mhen am oesoedd yn trio cofio beth oedd fy enw ar hwn! Adferwn y Maes! on. Cofia, Dafydd, y galli di ddefnyddio geiriau go iawn fel 'mwy na' ar hwn yn hytrach na symbolau fel '>']
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan dafydd » Gwe 26 Ebr 2013 1:39 pm

khmer hun a ddywedodd: Cofia, Dafydd, y galli di ddefnyddio geiriau go iawn fel 'mwy na' ar hwn yn hytrach na symbolau fel '>']

Ie, dyna'r jôc!

Enghraifft arall wnaeth llawer o bobl ddim gweld yw pan oedd Carwyn Jones ar Wedi 7 a fe ddwedodd nad oedd eu blant yn credu yn Siôn Corn. Yr unig reswm i olygu'r rhaglen oedd i 'osgoi embaras' i'r prif weinidog.

Dyma'r fersiwn ddarlledwyd yn fyw:



Dyma'r fersiwn roddwyd ar Clic, wedi ei olygu yn gelfydd iawn:

Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan nicdafis » Gwe 26 Ebr 2013 1:42 pm

wedi ei olygu yn gelfydd iawn...

Dyna beth sy'n poeni fi am y toriad yn y peth John Peel - fyddwn i ddim wedi sylweddoli oni bai am y fersiwn sy ar YouTube.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan C++ » Sul 28 Ebr 2013 1:45 am

Dyma'r drydedd enghraifft gan Winston Smith S4C...

Yr yr un rhaglen Fideo 9 mae fe wedi torri allan clip llawn o Eddie Ladd pan mae hi'n eistedd ar wal ac yn sôn am Yitzahk Rabin, Ronald Reagan a Margaret Thatcher (tri pherson marw!) - "...cysgwch yn dawel.". Yn y fersiwn WinstonClic mae'r rhaglen yn neidio yn syth o Traddodiad Ofnus i'r gydnabyddiaethau.

Sawl tro ydyn nhw wedi torri pethau allan oherwydd 'sensitifrwydd' (pethau tu allan i 3 rheol dafydd)?

dafydd, o le ddaeth yr esgus 'osgoi embaras'? Roedd yr un Carwyn Jones yn bwnc llosg #sioncorngate ar y pryd felly roedd rhaid bod y sensoriaeth yn amlwg i lot o bobl? Felly roedden nhw yn poeni mwy am Carwyn na beth mae'r gynulleidfa yn meddwl?

Maen nhw yn dangos hysbysebion ar Glic bellach ac mae 'scandal' yn peth positif.

Gyda llaw cawson nhw llawer o ddiolch wedyn wrth Llywodraeth Cymru do!
C++
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2011 10:41 pm

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan dafydd » Sul 28 Ebr 2013 1:38 pm

C++ a ddywedodd:dafydd, o le ddaeth yr esgus 'osgoi embaras'? Roedd yr un Carwyn Jones yn bwnc llosg #sioncorngate ar y pryd felly roedd rhaid bod y sensoriaeth yn amlwg i lot o bobl? Felly roedden nhw yn poeni mwy am Carwyn na beth mae'r gynulleidfa yn meddwl?!

Fi sy'n dyfalu hynny. Nawr dwi'n cofio be wnaeth ddigwydd - wnaethon nhw ddim sensro Clic ond fe wnaethon nhw olygu yr ail-ddangosiad o Wedi 7 y prynhawn wedyn. Sy'n ddiddorol achos mae'n awgrymu mai Tinopolis wnaeth benderfynu gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sensro John Peel ar Fideo 9

Postiogan nicdafis » Sul 28 Ebr 2013 10:15 pm

C++ a ddywedodd:Yn y fersiwn WinstonClic mae'r rhaglen yn neidio yn syth o Traddodiad Ofnus i'r gydnabyddiaethau.


Oes copi 'da ti o'r fersiwn gwreiddiol?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai