gan Hen Rech Flin » Mer 26 Meh 2013 12:25 am
Rwy'n cael anhawster efo'r naratif bod Leighton Andrews yn un o fawrion y Cynulliad, y gweinidog galluocaf ac ati sydd i'w gweld yn y cyfryngau ac ar y we.
Mae Leighton yn dod drosodd fel un o'r bobl fwyaf annwyl yn y cynulliad ac yn sicr mae o'n gallu siarad gêm dda, ond prin yw'r dystiolaeth ei fod o'n gallu chware gêm dda.
Gyda'r eithriad o ail raddio canlyniadau TGAU Saesneg llynedd rwy'n methu meddwl am ddim byd arall mae o wedi gwneud.Ei ymateb arferol i bob problem sydd wedi glanio ar ei ddesg bu osgoi ymateb trwy sefydlu gweithgor, ymgynghoriad neu bwyllgor, ymateb i osgoi problem yn hytrach na mynd i'r afael a'r broblem.
Trwy ymddiswyddo mae Leighton wedi gwneud be mae o'n gwneud orau; osgoi'r cyfrifoldeb am broblemau sy'n wynebu'r gwasanaethau iechyd ac addysg yn ei etholaeth. Y lle gorau iddo gael dylanwad ar ysbytai ac ysgolion y Rhondda oedd wrth y bwrdd cabinet; os nad oes modd delio a'r problemau heb israddio ysbyty a chau ysgolion - trwy fod yng Nghanol y trafodaethau byddai wedi cael y wybodaeth gorau i brofi hynny i'w etholwyr ac i amddiffyn ei Blaid. Y lle gwaethaf i gael dylanwad ac atebion yw trwy dal placard ar ochr y lôn.