Deng mlynedd yn ôl roedd y wefan hon ar ei hanterth - yn fwrlwm o drafod a ffraethineb - pwy fyddai wedi meddwl bryd hynny y byddai pethau wedi mynd mor ddistaw. Lle mae pawb? Roedd llawer o'r bwrlwm yn ymwneud ag ymchwydd ar y pryd yn y Sîn Roc Gymraeg sydd hefyd wedi mynd lawr rhyw dîn. Pwy sy'n cofio Abri yng Nghaerdydd, nosweithiau'r Relwe ym Mangor a'r nosweithiau yn Nhop y Cwps? Beth sydd wedi dod yn eu lle? Gigs ym Methesda a gigs Mentrau Iaith sy'n cael eu hysbysebu'n wael a'u mynychu yn hyd yn oed gwaeth. A lle mae'r pwysigion oedd yn mynnu cael eu lleisiau wedi'u clywed ac ennill pob dadl ar maes-e? Ar twitter, gydag amryw yn Twitio neu'n Trydaru (ych a fi) yn Saesneg er mwyn sicrhau fod cymaint o bobl a phosib yn clywed eu barn bwysig. Pwy sy'n cofio'r wythnos pan gafodd Nic Dafis Lond Bol eto
http://morfablog.com/llond-bol-eto/ ym mis Hydref 2004? Roedd nifer yn cael withdrawals ac eraill yn cymharu'r digwyddiad gyda Medi'r 11. Pwy fyddai'n tristhau pe bai maes-e yn diflannu heddiw? Pwy fyddai'n sylwi? 10 mlynedd yn ôl, hyd yn oed 7 mlynedd yn ôl, byddai'r neges hon, fel pob neges arall, wedi derbyn ymateb o blaid ac yn erbyn o fewn eiliadau? Sgwn i os fydd unrhyw un yn ymateb o gwbl heddiw? Tawelwch lle bu trafod, gwagle lle bu gwrthdaro.