gan ManonElin » Sad 08 Maw 2014 3:00 pm
Ma' cadw'r Pantycelyn presennol ar agor yn hanfodol bwysig i'r gymuned Gymraeg yn y Brifysgol. Does dim synnwyr mewn adeiladu adeilad hollol newydd I pan mae popeth sydd angen arnom yn yr adeilad presennol! Nid yw Fferm Penglais yn neuadd sy'n benodol I Gymry, canran bach iawn o'r preswylwyr fydd y siaradwyr Cyrmaeg.